Dangosiad Cyntaf: Fideo ‘Dilyn’ – Geraint Rhys

Mae’n bleser gan Y Selar gyflwyno dangosiad cyntaf o’r fideo ar gyfer sengl newydd Geraint Rhys, ‘Dilyn’.

Mwynhewch:

Rhyddhawyd y sengl yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, ond dyma’r tro cyntaf i’r fideo ymddangos. Mae’n dipyn o diwn hefyd!

Disgrifir ‘Dilyn’ fel ‘anthem bop indie iaith Gymraeg’ sydd â riff gitâr bywiog a geiriau teimladwy. Ar ôl ei gyfres o ganeuon gwleidyddol, mae’r cerddor wedi troi at brofiadau personol am ysbrydoliaeth ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, gan ysgrifennu trac sy’n llawn o obaith.

“Mae’r gân wedi ei ysgrifennu wrth i fy nai ifanc gael triniaeth ar ei galon yn gynharach yn y flwyddyn eleni” meddai Geraint Rhys.

“Mae mynd trwy adegau mor ansicr yn gwneud i chi adlewyrchu ar bethau, felly dyma lythyr agored iddo ef ac unrhyw un arall sy’n mynd trwy amseroedd caled i gydio yn y dydd tra bod cyfle.”

Bu i Geraint droi at deulu a ffrindiau wrth greu elfennau gweledol y trac, gan roi teimlad chwareus a hwyliog i’r fideo.

“Er bod y gân wedi ei hysgrifennu mewn cyfnod tywyll mae’n sicr yn gân obeithiol ynglŷn â gwneud y gorau o bob cyfle mewn bywyd pan fo modd i chi wneud hynny. Oherwydd hynny, roeddwn i eisiau creu fideo hapus gyda theimlad da. Mae cerddoriaeth yn un o’r arfau mwyaf pwerus sydd ganddom ni wrth uno pobl a nod y fideo ydy adlewyrchu hynny.”

Rhyddhau ar CD

Yn y byd digidol sy’n rheoli’r farchnad gerddoriaeth erbyn hyn, mae gweld senglau’n cael eu rhyddhau ar ffurf CD yn beth digon prin y dyddiau yma, ond dyna’n union mae Geraint wedi’i wneud gyda ‘Dilyn’.

Wrth drafod hyn gydag Y Selar fe eglurodd y cerddor o Abertawe fod sawl rheswm am y penderfyniad.

“Yn bennaf, roedd y cyfle i weithio gyda Amy Kour [ar y gwaith celf] sy’n artist sy’n dod o Rwsia ac yn gweithio ym Moscow yn un arbennig.

“Gwnes i siarad â hi am y syniad o greu rhyw cymeriad androdgenous o flaen y gad gyda phobl tu ôl iddi hi, ac fe wnaeth hi greu y delwedd yma. Fi’n dwli ar y llun a felly ro’n i eisiau creu rhywbeth fydd yn para tu hwnt i’r rhyngrwyd.

“Fi hefyd yn cofio’r dyddiau o brynu CDs ac mae’n neis cael artwork tangible. Rhywbeth mwy na jyst pixels ar sgrin cyfrifiadur. Mae bendant disconnect dyddiau yma gyda cherddoriaeth a materiality.

“Gobeithio pryd mae pobl yn prynu’r CD byddan nhw’n sylweddoli y fath o ymdrech sy’n mynd mewn i’r holl broses o fod yn artist.”

Clywch clywch a melys moes mwy medden ni yn Y Selar.