Cadwch olwg ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Y Selar fore dydd Gwener yma, gan y byddwn ni’n rhannu fideo newydd sbon y band Gwilym gyda’r byd am y tro cyntaf.
Rhyddhaodd y grŵp ifanc eu sengl ddiweddaraf, ‘Fyny ac yn Ôl’, ar ddydd Gwener 6 Gorffennaf, ac mae’r hogia o Fôn ac Arfon wedi mynd ati i gynhyrchu fideo ar gyfer y sengl.
Mae’r fideo newydd wedi’i gynhyrchu’n hollol annibynnol gan y grŵp, gydag ychydig bach o help gan eu label, Recordiau Côsh, a rheolwr y label Yws Gwynedd…sy’n hen law ar gynhyrchu fideos annibynnol erbyn hyn.
‘Fyny ac yn Ôl’ ydy pedwaredd sengl Gwilym, ac mae’r fideo hefyd yn nodi dyddiad rhyddhau albwm cyntaf y grŵp ifanc.
Bydd Sugno Gola yn cael ei ryddhau gan Côsh ddydd Gwener a bydd cyfle i ddal Gwilym yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ddydd Sadwrn.
Felly, cadwch olwg fore Gwener i chi gael gwylio fideo ‘Fyny ac yn Ôl’ ar wefan Y Selar, cyn unrhyw le arall.
Yn y cyfamser, dyma fideo ‘Cwîn’ gan Gwilym a gyhoeddwyd gan Ochr 1 fis Mai: