Mae’r grŵp newydd, Dienw, wedi rhyddhau fersiynau terfynol o’u senglau cyntaf i’w ffrydio ar eu safle SoundCloud ddiwedd wythnos diwethaf.
Mae fersiynau cynharach o’r caneuon wedi ymddangos cyn hyn, ond cadarnhaodd y grŵp mai’r caneuon a ymddangosodd ddydd Gwener diwethaf ydy’r fersiynau terfynol.
Ffurfiwyd y band nôl ym mis Hydref, fel rhan o Marathon Roc, sef y gweithdy/cwrs tri niwrnod oedd yn cael ei gynnal gan y Galeri, Nghaernarfon.
Cafodd bandiau a cherddorion ifanc gyfle i weithio gyda rhai o enwau cerddorol amlycaf Cymru fel tiwtoriaid iddynt, sef Osian Williams (Candelas), Branwen Williams (Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi), Ywain Gwynedd (Yws Gwynedd, Frizbee) a Gai Toms (Brython Shag, Anweledig).
Band ifanc, dau aelod o Ddyffryn Peris yw Dienw, sef Twm ac Osian.
Yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni recordiwyd y fersiynau diweddara’ o’r ddwy gân, sef ‘Bwystfil Prydferth’ ag ‘Gwasanaethau’, a hynny gydag Osian Williams ac Ifan Jones o Candelas sy’n rhedeg y stiwdio ar hyn o bryd.
Cawsom wybod hefyd bod cyfle i ddal Dienw yn perfformio’n fyw yn noson ddiweddaraf Gigs y Gilfach Ddu yng Nghlwb Cymdeithasol Llanberis ar 23 Mawrth gyda Y Cledrau ac I Fight Lions yn perfformio hefyd.