Eädyth yn rhyddhau’r Sengl Sain ddiweddaraf

Y gantores electroneg o Ferthyr Tudful, Eädyth, ydy’r ddiweddaraf i ryddhau sengl fel rhan o’r gyfres Senglau Sain gyda’r trac ‘Ymlaen yr Awn’.

Mae’r sengl yn gywaith ar y cyd a Shamoniks, sef prosiect cerddorol Sam Humphreys, ac mae’n cynnwys llais Edward Morus Jones o drac a ryddhawyd ym 1968.

Ysbrydolwyd y trac gan hen recordiad o Edward Morus Jones a gyhoeddwyd ar label Cambrian yn 1968.

Daeth Sam (Shamoniks) ar draws y record mewn siop elusen leol, ac ar bnawn Sul braf aeth y ddau ati i greu cân o’r newydd gan ddefnyddio sampl o’r record feinyl.

“Ymlaen yr awn – yr un yw’r neges hanner canrif yn ddiweddarach!” meddai Sain.

Mae Eädyth yn un o artistiaid cynllun Gorwelion BBC Cymru eleni ac mae wedi bod yn cydweithio gyda Shamoniks ar nifer o draciau yn ddiweddar.

Mae proffil Eädyth ar wefan Gorwelion yn ei chyflwyno fel artist sy’n creu ‘cerddoriaeth ddawns electronig Gymraeg o’r safon uchaf.  Mae llais Eädyth a’i gallu i sgwennu caneuon a’u perfformio’n fyw (mewn sioe anhygoel sy’n denu sylw) yn gwbl ryfeddol’.