Egwyl i Ŵyl Rhif 6 ar ôl eleni

Mae trefnwyr Gŵyl Rhif 6, a gynhelir ym mhentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog bod mis Medi, wedi cyhoeddi bydd yr ŵyl yn cymryd hoe ar ôl eleni.

Lansiwyd yr ŵyl yn 2012, ac mae wedi eu chynnal yn flynyddol ers hynny, ond mae’r trefnwyr wedi datgan mai y ŵyl eleni fydd yr olaf am y tro, gan egluro y bydd egwyl yn rhoi cyfle iddynt gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Wrth wneud y cyhoeddiad ddiwedd wythnos diwethaf, maent wedi pwysleisio y bydd yr ŵyl eleni’n un i’w chofio, ac yn barti addas cyn yr egwyl.

Dywed y trefnwyr mai’r nod wrth sefydlu’r ŵyl oedd i greu digwyddiad unigryw, mewn lleoliad arbennig, a’u bod wedi rhyfeddu at ei phoblogrwydd a llwyddiant dros y blynyddoedd. Er hynny, maent yn cydnabod bod y digwyddiad wedi profi problemau yn y gorffennol, a bod safle Portmeirion yn un cymhleth i’w reoli.

Mae’r datganiad yn amwys ynglŷn â chynlluniau i gynnal yr ŵyl yn y dyfodol, ond yn sicr 2018 fydd yr olaf am y tro.

Mae arlwy 2018 yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau yn ôl yr arfer gydag artistiaid, perfformwyr, DJs, awduron, cogyddion a phrif enwau cerddorol sy’n cynnwys  The The, Friendly Fires, The Charlatans, Gaz Coombes, Everything Everything a Franz Ferdinand ynghyd â’r DJs enwog Andrew Weatherall a Kenny Dope.

Ymysg yr artistiaid Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ma Yucatan, Geraint Jarman a Band Pres Llareggub