EP a sengl Blind Wilkie McEnroe

Fe fydd nifer sy’n darllen yn cofio sôn diweddar am ddyfodiad y grŵp newydd dirgel Blind Wilkie McEnroe.

Mae darlun llawnach ynglŷn â’r grŵp yn dechrau dod yn glir, ac yn dilyn rhyddhau eu sengl gyntaf yn ddiweddar, mae eu label, I KA CHING, bellach wedi cyhoeddi bod EP cyntaf y band, Ar Dydd Fel Hyn, i’w ryddhau ar 9 Tachwedd eleni.

Ond, cyn hynny bydd ail sengl y band, ‘Edrych i Mewn’, yn cael ei rhyddhau 26 Hydref – ynghyd â fideo i gyd-fynd â’r sengl ar lwyfannau Hansh.

Yn ôl y label, Blind Wilkie McEnroe yw canlyniad noson ddiddorol ble bu i ysbryd hen foi blŵs, o’r un enw a’r band bellach, ymweld â rhai o’r aelodau gan eu hysbrydoli i ddechrau band, er mwyn iddo allu parhau i ganu y tu hwnt i’r bedd. ]

Rŵan…tydi Y Selar ddim yn awgrymu am eiliad bod I KA CHING yn gelwyddog, ond dydan ni chwaith ddim yn credu mewn ysbrydion, felly cewch benderfynu dros eich hunain ynglŷn â pha mor ddibynadwy ydy’r stori!

Mwy am Blind Wilkie

Ryda ni bellach yn gwybod mai Carwyn Ginsberg, Dave Elwyn a Mike Pandy ydy aelodau gwreiddiol Blind Wilkie McEnroe, ac mae’r tri yn gerddorion sydd wedi bod a’u bysedd mewn amryw o basteiod cerddorol yn y gorffennol – Carwyn fel aelod o’r band Fennel Seeds a Hippies Vs Ghosts; Mike gyda HazyBee a Hel Dinky; a Dave fel artist unigol yn trio rhywbeth cyffrous a gwahanol.

Mae sŵn blŵs cyfoes a seicadelia yn amlwg yng nghaneuon y band diddorol yma. Recordiwyd y caneuon dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd Llŷr Parri yn stiwdio Glan-llyn, Melin y Coed – un sy’n gyfarwydd iawn â synau seicadelig ag yntau’n aelod o Jen Jeniro, Omaloma a Serol Serol, ac wedi gweithio ar gynnyrch Lastigband, Sen Segur a Bitw fel cynhyrchydd.

Ers dod allan o’r stiwdio mae’r tri wedi ychwanegu Si Brereton ar y piano, synths ac offerynnau taro ac Andrew Stokes ar bass, er mwyn llenwi’r sŵn byw. A phwy a ŵyr, falle y gwnaiff Wilkie ei hun ymddangosiad hefyd yn y dyfodol…

Rhyddhawyd y sengl gyntaf, ‘Moroedd’, ar 28 Medi, a bydd cyfle cyntaf i glywed y sengl ‘Edrych i Mewn’ ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru nos Iau yma.