Cyhoeddodd Recordiau Libertino wythnos diwethaf bod EP newydd ar y ffordd gan un o’u hartistiaid diweddaraf, sef Papur Wal.
Roedd y grŵp sydd wedi ffurfio yng Nghaerdydd yn un o atyniadau gŵyl Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach dros y penwythnos, a bydd y record fer o’r enw Siegfried Sasoon allan dros yr haf.
Dyma fydd EP cyntaf y grŵp, ond cyn hynny, fe ryddhaodd Papur Wal sengl, sef y gân sy’n rhannu enw’r EP, ‘Siegfriend Sasoon’, ddydd Gwener.
Recordiwyd y trac gan y grŵp Mellt, sy’n fêts gyda Papur Wal, ac mae’r sengl hefyd yn cynnwys ail-gymysgiad o’r gân gan Pasta Hull.
Mae’r EP wedi ei recordio gyda Kris Jenkins, a adnabyddir hefyd fel Sir Doufous Styles, sydd wedi cydweithio gyda’r Super Furry Animals, Gruff Rhys, Cate Le Bon, H Hawkline ymysg eraill.
‘”Dyma’r gân gyntaf wnes i sgwennu ar gyfer Papur Wal. Y tro cynta i fi dabblo mewn tunings alternate o dan ddylanwad Stephen Malkmus a Sonic Youth” meddai Ianto Gruffudd o’r grŵp.
Bydd modd prynu’r sengl yn ddigidol ers 4 Mai, a dyma hi isod…