Bydd y band ardderchog o Gaerfyrddin, Cpt. Smith, yn rhyddhau eu EP newydd ddydd Gwener yma, 14 Medi.
Get A Car ydy enw ail EP Cpt Smith, ac mae’n dilyn yr EP Propeller a ryddhawyd ar label Recordiau I KA CHING yn 2016. I KA CHING sy’n gyfrifol am gyhoeddi y casgliad byr diweddaraf gan y grŵp hefyd.
Mae’r band wedi datblygu i fod yn un fandiau amlycaf Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac ers rhyddhau Propeller, maent wedi rhyddhau’r senglau ‘I Hate Nights Out’ a ‘Smaller Pieces’ yn 2017.
Fel tamaid i aros pryd cyn rhyddhau’r EP fe ryddhawyd y sengl sy’n rhannu enw’r casgliad byr, ‘Get a Car’, fel sengl ar 3 Awst.