Mae manylion sioe lwyfan arbennig iawn yr olwg wedi eu cyhoeddi gan gwmni Turnstile yn ddiweddar.
Bydd sioe unigryw ‘Epilog’ yn cael ei llwyfannu fel rhan o ddigwyddiad Gŵyl y Llais 2018 yng Nghaerdydd, a hynny yn y New Theatre ar ddydd Gwener 15 Mehefin.
Mae’r sioe wedi ei seilio ar gasgliad newydd wedi’i guradu gan y casglwr recordiau a chynhyrchydd radio Dyl Mei ac mae’n gyfle “unigryw i ail-fyw rhai o ganeuon yr oes aur hon yn hanes canu pop Cymraeg” yn ôl Turnstile. Yn ogystal â’r sioe lwyfan, mae cynlluniau i ryddhau’r casgliad ar record yn fuan.
“Bydd Epilog yn aduno cantorion gwreiddiol yr operâu roc am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Bellach yn enwau adnabyddus ym myd cerddoriaeth Cymraeg byddan nhw’n dod at ei gilydd am un noson arbennig.
“Bydd y grŵp gwerin Ac Eraill yn gwneud ymddangosiad prin iawn ar lwyfan ers iddynt chwalu yn y 70au hwyr, ynghyd â Sidan yn ymddangos ar lwyfan am y tro cyntaf ers diwedd yr 80au.
“Bydd yr actores adnabyddus, Gillian Elisa yn camu ar lwyfan i ganu rhai o ganeuon yr opera roc Melltith ar y Nyth. Yn ymuno â nhw bydd Meic Stevens, Cleif Harpwood, Delwyn Sion a Tecwyn Ifan gyda thon arall o enwau yn cael ei chyhoeddi maes o law.”
Diffinio canu Pop Cymraeg
Casgliad sy’n seiliedig ar gyfres o operâu roc a ddaeth i ddiffinio canu pop Cymraeg yn y 70au a’r 80au yw ‘Epilog’, sy’n “ddathliad o leisiau a thalent y cyfnod. Wedi ei blethu at ei gilydd mewn ffordd gelfydd mae Epilog yn tynnu ar ganeuon o operâu roc megis Nia Ben Aur, Melltith ar y Nyth, Jiwdas a Gorffennwyd yn ogystal ag operâu roc llai adnabyddus na chafodd eu rhyddhau ar record erioed megis Yr Anwariaid ac Etifeddiaeth Drwy’r Mwg.”
Bydd trefniannau cerddorol newydd yn gyfeiliant ar y noson wedi’u cyfansoddi a’u perfformio gan Gruff ab Arwel sy’n gyfarwydd i ni am ei waith gyda Bitw, Gruff Rhys, Y Niwl, Eitha Tal Ffranco.
Comisiynir naratif arbennig gan yr awdur a’r darlledwr Hywel Gwynfryn i gadwyni’r caneuon ac i gadwyni’r cenedlaethau, ei fab Huw Evans (H Hawkline) sy’n gyfrifol am waith celf eiconig Epilog.
‘Cyfle i gofio’
“Mae’n mynd i fod yn noson unigryw, yn ddathliad, yn gyfle i gofio ond yn bennaf i fwynhau sioe gerddorol anhygoel fydd ar lwyfan am un noson yn unig” meddai Alan Llwyd o Turnstile am y noson.
Cyflwynir Epilog fel rhan o Ŵyl y Llais, gŵyl gelfyddydol ryngwladol a gynhelir bob yn ail flwyddyn gan Ganolfan Mileniwm Cymru, sy’n digwydd mewn amryw o leoliadau ar draws Caerdydd rhwng Mehefin 7fed a’r 17eg.
Mae modd prynu’r tocynnau ac am ragor o wybodaeth, ar wefan Gŵyl y Llais neu dros y ffon ar 029 2063 6464.
Gallwn ddatgelu y byddwn yn cynna cystadleuaeth arbennig i ennill pâr o docynnau ar gyfer y sioe yn hwyrach yn yr wythnos – cadwch olwg ar gyfryngau Y Selar am fanylion pellach.
Dyma un o ganeuon ‘Melltith ar y Nyth’, sef ‘O Bendigedig’ i roi blas o’r hyn y gallwch chi ddisgwyl: