Teg dweud bod cryn gyffro ac edrych ymlaen at ryddhau albwm cyntaf Adwaith.
Melyn ydy enw record hir newydd y grŵp o Gaerfyrddin, a bydd yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Libertino ar 12 Hydref.
Rydym eisoes wedi clywed bod yr albwm i’w ryddhau’n ddigidol ac ar feinyl, ond cyhoeddodd Recordiau Libertino wythnos diwethaf bod yr albwm allan ar feinyl lliw, a hwnnw’n feinyl lliw coch.
Newyddion cyffrous pellach ydy bod un o gerddorion enwocaf Cymru, James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers wedi ail-gymysgu’r trac ‘Gartref’ gan Adwaith.
Rhyddhawyd y fersiwn newydd o’r trac ar yr holl lwyfannau digidol arferol ddydd Gwener diwethaf, 14 Medi.
Rhyddhawyd fersiwn wreiddiol ‘Gartref’ fel sengl yn gynharach yn yr haf ar 13 Gorffennaf gyda gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.