Mae Gwobrau’r Selar bellach wastad wedi bod yn dipyn mwy na dim ond noson wych o gerddoriaeth fyw, ac mae’n draddodiad bellach i gynnal llwyth o weithgareddau ar ddydd Sadwrn y Gwobrau.
Bydd hyn yn wir unwaith eto eleni, gyda nifer o ddigwyddiadau i ddiddori unrhyw un sydd am wneud penwythnos ohoni yn Aberystwyth.
Rydan ni wrth gwrs eisoes wedi cyhoeddi bod noson i ddathlu cyfraniad Heather Jones i’r sin yn Yr Hen Goleg ar nos Wener 16 Chwefror, ond bydd Heather hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs arbennig fel rhan o gyfres o sgyrsiau a gynhelir yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol bnawn Sadwrn 17 Chwefror.
Bydd Y Selar hefyd yn nodi achlysur pen-blwydd un o grwpiau mwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf mewn sgwrs gydag aelodau Anweledig. Mae’r band o Flaenau Ffestiniog yn dathlu 25 mlynedd ers ffurfio eleni, a bydd Griff Lynch yn eu holi.
Bydd trydedd sgwrs y prynhawn yn nwylo criw blog a phodlediad Sôn am Sîn. Mae’r blog, a’r podlediadau misol diweddar, wedi denu tipyn o gefnogwyr diolch i’w trafodaeth graff o gerddoriaeth cyfoes. Trafodaeth banel ydy’r cynllun yng Ngwobrau’r Selar, gan ofyn beth ydy gwerth gwobrau cerddorol yn 2018 – pwnc priodol iawn!
Trip a ffair
Yn ogystal â’r sgyrsiau, fe fydd modd i nifer cyfyngedig o bobl fynd am daith dywys arbennig i weld rhai o drysorau cerddorol y Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd y daith, fydd yn nwylo Dan ‘Bach’ Griffiths yn gyfle unigryw i ymweld â rhai o gasgliadau yr Archif Sgrin a Sain, ynghyd â rhai o drysorau cerddorol eraill archifau’r Llyfrgell. Gall unrhyw un sydd am fynd ar y daith gofrestru eu diddordeb trwy ebostio Dan – tdg@llgc.org.uk
Hefyd ar ddydd Sadwrn y Gwobrau, bydd Ffair Recordiau yn cael ei chynnal yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth rhwng 10 a 4.
Bydd y gweithgareddau uchod i gyd yn digwydd rhwng 10:00 a 16:00 ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror, ac mae mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar a digwyddiad Facebook Gwobrau’r Selar.
Dyma amserlen y sgyrsiau:
12:00 – Heather Jones
13:00 – Anweledig @ 25
14:00 – Sgwrs banel Sôn am Sîn