Ffarwelio â Calfari

Nos Wener ddiwethaf roedd y grŵp o Ynys Môn, Calfari, yn perfformio yn eu gig olaf wrth iddynt gyhoeddi eu bod nhw wedi penderfynu chwalu.

Cynhaliwyd y gig olaf yn yr Iorwerth Arms ym Mryngwran gyda chefnogaeth gan Fleur de Lys, Yr Oria, Rhys Jones a Daf Jones. Yn ôl pob tebyg, roedd pob un o’r 400 o docynnau ar gyfer y gig wedi eu gwerthu ymlaen llaw.

Ffurfiwyd Calfari yn 2014, a thyfodd y band i fod yn boblogaidd iawn, yn enwedig ym Môn a’r gogledd Orllewin.

Rhyddhaodd y grŵp ddau EP, sef Nôl ac Ymlaen, yn 2015 a Rhydd yn 2016, gan hefyd ryddhau albwm o’r enw Gorwelion yn 2017.

Enillodd Nôl ac Ymlaen y wobr ‘Record Fer Orau’  yng Ngwobrau’r Selar.

Yn ôl y band mae sawl rheswm dros y penderfyniad i roi’r gorau iddi, ond y prif reswm oedd cyfrifoldebau teuluol a diffyg amser i barhau.

Er ddim ond gyda’i gilydd am rai blynyddoedd mae’r grŵp wedi bod yn hynod o weithgar – yn ôl yr aelodau maen nhw wedi chwarae mewn dros 150 o gigs ers ffurfio, ac ymysg yr uchafbwyntiau mae’r gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith yn Steddfod Môn, Sioe Ogwen 2017 a Gŵyl Looe yng Nghernyw yn 2015.

Er mai dyma’r diwedd i Calfari, mae’n debyg bydd rhai o’r aelodau’n mynd ymlaen i weithio ar brosiectau cerddorol newydd.