Ffrydio sengl Alffa dros 100,000 o weithiau  

Mae sengl ddiweddaraf Alffa, ‘Gwenwyn’, wedi ei ffrydio dros 100,000 o weithiau ar Spotify.

Rhyddhawyd ‘Gwenwyn’ ar 3 Awst – y sengl gyntaf i Alffa ryddhau ar label Recordiau Côsh.

Mae’r newyddion bod y trac wedi’i ffrydio dros 100,000 o weithiau dros gwta dair wythnos yn siŵr o fod yn hwb i’r grŵp, ac mae’n sicr wrth fodd rheolwr eu label, Yws Gwynedd sy’n gwneud tipyn o waith hyrwyddo effeithiol iawn ar y cyfrwng.

Mae Yws yn cael ei weld fel tipyn o awdurdod ar bethau Spotify, ac yn ei ôl ef, dim ond llond llaw o ganeuon Cymraeg sydd wedi croesi’r ffigwr o 100,000 ffrydiad ar Spotify.

I brofi’r pwynt mae wedi cyhoeddi rhestr o’r 13 trac sydd wedi llwyddo i wneud hynny ar ffrwd Twitter Recordiau Côsh.Mae hefyd wedi mynd ati i greu rhestr chwarae Spotify o’r holl ganeuon dan sylw o’r enw ‘Y Clwb Can Mil’.

Wythnos diwethaf hefyd, fe wnaeth Alffa gyhoeddi fideo annibynnol ar gyfer ‘Gwenwyn’ ar eu sianel YouTube: