Fideo ‘Aflonyddu’ gan OSHH

Cafodd fideo newydd ei uwch lwytho gan Ochr 1 a HANSH ar ddydd Gwener 5 Ionawr, ar gyfer y trac ola’ o albwm diweddar OSHH, prosiect Osian Howells (basydd Yr Ods) o Star, Ynys Môn.

Mae OSHH yn artist sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar ers rhyddhau ei albwm newydd nôl yn nechrau’r Hydref 2017, ar label Recordiau Blinc.

Fe ryddhawyd sengl ganddo o’r albwm, sy’n rhannu enw’r artist, hefyd ar 15 Rhagfyr sef ‘Sibrydion’, hefyd ar Recordiau Blinc.

Fe gyfarwyddwyd y ffilm gan Rhys Edwards ar gyfer Ochr 1.