Fideo: Dangosiad cyntaf ‘Fyny ac yn Ôl’ – Gwilym

Ar ddiwrnod rhyddhau albwm cyntaf o grŵp o Fôn ac Arfon, Gwilym, mae’n bleser gennym allu dangos fideo sengl y band, ‘Fyny ac yn Ôl’, am y tro cyntaf yma ar wefan Y Selar.

Heb oedi ymhellach, dyma’r fideo newydd gwych, ond sgroliwch lawr am yr hanes islaw…

 

Rhyddhaodd Gwilym eu sengl ddiweddaraf ‘Fyny Ac yn Ôl’ ar ddydd Gwener 6 Gorffennaf. Dyma bedwaredd sengl y grŵp, ac mae’r bedair wedi’u cynnwys ar eu halbwm cyntaf, Sugno Gola, sydd allan ar label Recordiau Côsh heddiw.

Mae Gwilym yn gymysgedd o aelodau o Wynedd ac Ynys Môn, a daethant i amlygrwydd wrth gystadlu ym Mrwydr y Bandiau Maes B / Radio Cymru llynedd, gan gyrraedd y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni. Cawsant lwyddiant pellach yn gynharach eleni trwy gipio teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar.

Pwy sydd angen pres

Aeth y grŵp ati i gynhyrchu’r fideo newydd yn hollol annibynnol, a heb ddim cyllideb. Fe gawson nhw beth help gan reolwr eu label, Yws Gwynedd, sydd wrth gwrs yn hen law ar gynhyrchu fideos annibynnol ei hun – enillodd ddau o’i fideos DIY deitl ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ Gwobrau’r Selar, sef ‘Sebona Fi’ yn 2015 a ‘Drwy Dy Lygid Di’ llynedd.

Yws fu’n trafod hanes ffilmio’r fideo gydag Y Selar

“Nes i glywed fod yr ogia’n cael ymarfer yn nhŷ’r basydd Llew, ac oeddwn i newydd gael ‘gymbal’ newydd i’r iPhone drwy’r post” eglura Yws.

“Es i bigo fyny Rhys Grail y gitarydd a chynllunydd celf y band yn y car a ffwrdd a ni i Felinheli. Tra oeddwn i’n aros i Ifan y prif leisydd gyrraedd – mae o wastad yn hwyr – cafodd Rhys y syniad o bawb ffilmio eu hunain efo’r gymbal wrth gerdded o amgylch yr ardd.

“Wrth gerdded o gwmpas fysa’r aelodau’n taflu’r gymbal (drud) oedd yn cario iphone (drud) i fyny i’r awyr ac yn ei ddal yn ôl….gobeithio! Rhain ydi’r edit points a welir yn y fideo.

“Ma’ na hefyd un shot o bawb a gymerwyd gan ddyn camera / gymbal / cerdded am yn ôl gora’n y byd…fi.”

Er y byddai ambell gyfarwyddwyr fideos precious yn siŵr o dynnu sylw at wendidau, mae’r fideo newydd yn esiampl arall gan Yws o sut mae modd creu fideo cerddoriaeth safonol ar gyllideb…neu ddim cyllideb o gwbl yn hytrach!

Un arall ar y ffordd

Mae Yws wedi tynnu sylw’n gyson at bwysigrwydd y cyfrwng fideo cerddoriaeth wrth hyrwyddo artistiaid, ac mae fideo newydd Gwilym yn siŵr o ddenu tipyn i wylio.

“Cymerodd y fideo hanner awr i’w saethu yng ngwres llethol yr haf yn y Felinheli” ychwanegodd Yws.

“Yna cafodd ei olygu gan Iwan Pitts, sef brawd Hywel Pitts o I Fight Lions sydd hefyd ar label Côsh.

“Maen nhw wrthi hefyd yn y broses o ffilmio fideo ‘cartref’ gyda gajet arall o fy nhŷ i.”

Gwyliwch y gofod…neu gwyliwch y Tube am ymddangosiad hwnnw felly, ond yn y cyfamser, mwynhewch y golygfeydd o hwyl a sbri yng ngardd Rhys, gitarydd Gwilym.

Bydd cyfle i weld Gwilym yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ddydd Sadwrn gyda swp o gigs eraill i ddod dros yr wythnosau nesaf.

Gigs haf Gwilym

13/7 – Clwb Rygbi Caernarfon
14/7 – Gŵyl Car Gwyllt, Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
21/7 – Sesiwn Fawr Dolgellau
7/8 – Caffi Maes B, ‘Steddfod Caerdydd
8/8 – Maes B, ‘Steddfod Caerdydd
9/8 – Llwyfan y Maes, ’Steddfod Caerdydd
1/9 – Gŵyl Pendraw’r Byd, Aberdaron