Fideo ‘Edrych i Mewn’ gan Blind Wilkie McEnroe

Mae Ochr 1/Hansh wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer cân Blind Wilkie McEnroe, ‘Edrych i Mewn’.

Blind Wilkie McEnroe ydy’r grŵp dirgel a ymddangosodd o nunlle ddiwedd mis Medi gan ryddhau’r sengl ‘Moroedd’ ar label Recordiau I KA CHING ar 28 Medi.

Ar yr un diwrnod â rhyddhau’r sengl, roedd y band yn perfformio eu gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, gan gefnogi dau o artistiaid eraill I KA Ching, sef Candelas ac Y Cledrau.

Ers hynny rydym wedi dysgu mai Carwyn Ginsberg, Dave Elwyn a Mike Pandy ydy Blind Wilkie McEnroe.

Mae’r tri yn gerddorion cyfarwydd sydd wedi bod yn aelodau o sawl band arall dros y blynyddoedd – Carwyn fel aelod o’r band Fennel Seeds a Hippies Vs Ghosts; Mike gyda HazyBee a Hel Dinky; a Dave fel artist unigol.

Aled Wyn Jones sydd wedi cyfarwyddo’r fideo newydd a gyhoeddwyd ar lwyfannau amrywiol Ochr 1 ddydd Gwener diwethaf, ac ‘Edrych i Mewn’ ydy’r ail sengl i’w rhyddhau o EP cyntaf y grŵp fydd allan ar 9 Tachwedd.

Ar Ddydd Fel Hyn ydy enw’r EP newydd a fydd yn cael ei ryddhau gan I KA Ching, ac mae’r caneuon wedi eu recordio yn stiwdio Glan-llyn, Melin y Coed gyda’r cynhyrchydd Llŷr Pari.