Fideo: ‘Lluniau’ – Iwan Huws

Dyma ni, dangosiad cyntaf – dim llai nag ecsgliwsif byd eang – o fideo newydd Iwan Huws. Mwynhewch….

Daw’r trac newydd yma o  albwm unigol cyntaf Iwan, Pan Fydda Ni’n Symud, fydd yn cael ei ryddhau wythnos nesaf ar ddydd Gwener 11 Mai.

Mae Iwan yn gyfarwydd iawn i ni wrth gwrs fel prif ganwr un o grwpiau gorau Cymru dros y ddegawd diwethaf, Cowbois Rhos Botwnnog ond dyma’i brosiect unigol cyntaf.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar CD ac yn ddigidol, a hynny ar label Sbrigyn Ymborth, sy’n cael ei redeg yn rhannol gan ei frawd Aled Hughes, sydd hefyd yn aelod o Cowbois Rhos Botwnnog. Y trydydd brawd a chowboi, Dafydd Hughes, sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r fideo newydd.

Rhyddhaodd Iwan y teitl-drac ar gyfer yr albwm, ‘Pan Fydda Ni’n Symud’, fel sengl, law yn llaw â fideo nôl ar ddechrau mis Ebrill.

Ac mae ‘Lluniau’ yn damaid bach blasus arall i aros pryd nes rhyddhau’r record hir.

Os ydach chi isho gwybod mwy am Iwan a’r albwm newydd yna bachwch gopi o rifyn nesaf Y Selar sydd allan ddiwedd mis Mai i ddarllen ein cyfweliad gyda’r cerddor.