Fideo newydd Lewys

Mae fideo cyntaf Lewys, yr artist ifanc o Ddolgellau, wedi’i gyhoeddi wythnos diwethaf, sef y fideo ar gyfer ei sengl gyntaf ‘Yn Fy Mhen’.

Rhyddhawyd y sengl gan Recordiau Côsh nôl ar ddechrau mis Chwefror, ac mae’r fideo newydd wedi’i gyhoeddi gan Ochr 1 a HANSH. Cyfarwyddwyd y fideo gan Izak Zjalic.

Artist 17 mlwyddyn oed o Ddolgellau yw Lewys (Lewys Meredydd), ac mae ar radar Y Selar ers peth amser gan ei fod wedi bod yn arbrofi gyda tiwns ar ei saflen Soundcloud ers rhyw ddwy flynedd.  Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Lewys wedi arbrofi gyda cherddoriaeth electroneg ac indie, ac hyd yn oed wedi cynhyrchu cân sy’n perthyn yn agos i’r genre Math Rock.

“Rydym wedi cyffroi fel label i gael bod yn rhan o ddatblygiad Lewys ac yn edrych ymlaen iddo gynnig rywbeth newydd i’r byd cerddorol” meddai Recordiau Côsh pan ryddhawyd y gân fis Chwefror.

Label Ywain Gwynedd (Yws Gwynedd, Frizbee) ydy Recordiau Côsh wrth gwrs, ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu talent artistiaid ifanc o dan eu gofal.

Maent hefyd ar y funud yn gweithio gyda’r band Miskin (Pyroclastig gynt) o Ben Llŷn a Chaernarfon.