Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) yn chwilio am banelwyr i helpu gyda’r broses o enwebu albyms ar gyfer y wobr.
Trefn arferol proses y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ydy bod rhestr rheithgor eang o unigolion sy’n ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru’n cyfrannu syniadau ynglŷn ag albyms y dylid eu cynnwys ar restr hir y wobr yn flynyddol.
Mae’r rheithgor yn pleidleisio dros eu hoff recordiau, a’r trefnwyr yn llunio rhestr fer ar sail y pleidleisiau hynny er mwyn i banel drafod, a dewis un enillydd ar ddiwedd y broses.
Mae’r alwad am unigolion newydd i ymuno â’r rheithgor yn gyfle ardderchog felly i rywun gyfrannu at y broses i ddewis enillydd ar gyfer y wobr sydd yn uchel iawn ei pharch.
Mae’r alwad wedi’i wasgaru dros gyfryngau’r Wobr dros y dyddiau diwethaf…
“Hoffech fod ar banel nomineiddio y Wobr Gerddoriaeth Gymreig? Rydym yn chwilio am unigolion i gyfrannu syniadau am eu hoff albyms o Gymru eleni. Ebostiwch – info@welshmusicprize.com”
Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan Huw Stephens a John Rostron yn 2010, ac albwm ‘Hotel Shampoo’ gan Gruuf Rhys oedd yr enillydd cyntaf (2010-11). Ers hynny mae Future of the Left (2011-12), Georgia Ruth Williams (2012-13), Joanna Gruesome (2013-14), Gwenno (2014-15) a Meilyr Jones (2015-16) oll wedi ennill y wobr. Yr enillydd diweddaraf yn 2016-17 oedd The Gentle Good gyda’r albwm ‘Ruins / Adfeilion.’
Mae’r Wobr heb os yn cael ei weld fel marc safon arbennig ar gyfer recordiau Cymreig, a’r enillwyr, ynghyd â’r rhestrau byr yn aml, yn denu sylw eang tu hwnt i Gymru fach.
Ewch amdani a chynnig eich hunain i gyfrannu at y broses – info@welshmusicprize.com