Geraint Rhys: Sengl allan, fideo ar y ffordd

Mae’r cerddor sy’n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon protest, Geraint Rhys, wedi rhyddhau sengl Gymraeg newydd, a bydd fideo i gyd-fynd â’r trac i’w weld yn ecsgliwsif ar wefan Y Selar ddydd Gwener.

Rhyddhawyd ‘Dilyn’ ddydd Gwener diwethaf, a bydd cyfle cyntaf i weld fideo’r gân yma ar wefan Y Selar ddydd Gwener yma, 16 Tachwedd.

Cafodd Geraint gryn lwyddiant gyda thrioleg o ganeuon gwleidyddol yn 2017, gan gynnwys y trac Cymraeg ‘Ta ta Tata’. Llwyddodd fideos i caneuon hyn i ddenu dros 110,000 o bobl i’w gwylio ar YouTube.

Cyhoeddwyd fideo ‘Ta ta Tata’ yn ecsgliwsif ar wefan Y Selar pan ryddhawyd y sengl yn Ebrill 2017, a bydd y cerddor yn cydweithio â’r Selar unwaith eto wrth ryddhau ei fideo diweddaraf i’r byd.

Troi at brofiad personol

Disgrifir ‘Dilyn’ fel ‘anthem bop indie iaith Gymraeg’ sydd â riff gitâr bywiog a geiriau teimladwy. Ar ôl ei gyfres o ganeuon gwleidyddol, mae’r cerddor wedi troi at brofiadau personol am ysbrydoliaeth ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, gan ysgrifennu trac sy’n llawn o obaith.

“Mae’r gân wedi ei ysgrifennu wrth i fy nai ifanc gael triniaeth ar ei galon yn gynharach yn y flwyddyn eleni” meddai Geraint Rhys.

“Mae mynd trwy adegau mor ansicr yn gwneud i chi adlewyrchu ar bethau, felly dyma lythyr agored iddo ef ac unrhyw un arall sy’n mynd trwy amseroedd caled i gydio yn y dydd tra bod cyfle.”

Bu i Geraint droi at deulu a ffrindiau wrth greu elfennau gweledol y trac, gan roi teimlad chwareus a hwyliog i’r fideo.

“Er bod y gân wedi ei hysgrifennu mewn cyfnod tywyll mae’n sicr yn gân obeithiol ynglŷn â gwneud y gorau o bob cyfle mewn bywyd pan fo modd i chi wneud hynny. Oherwydd hynny, roeddwn i eisiau creu fideo hapus gyda theimlad da. Mae cerddoriaeth yn un o’r arfau mwyaf pwerus sydd ganddom ni wrth uno pobl a nod y fideo ydy adlewyrchu hynny.”

Gwaith celf

Mae Geraint wedi cydweithio â’r artist o Rwsia, Amy Kour, ar gyfer creu gwaith celf y sengl sy’n cael ei rhyddhau ar CD – rhywbeth digon prin y dyddiau yma.

“Mi wnaethom ni drafod themâu y traciau ac mae hi wedi creu’r cymeriad androgynaidd anhygoel yma ‘Alyona The Great’ sydd i fod i ymgorffori’r agwedd ‘achubwch ar y cyfle’ sydd yn y trac.”

Bydd dangosiad cyntaf fideo newydd ‘Dilyn’ ar wefan Y Selar fore dydd Gwener nesaf, 16 Tachwedd.