Ddydd Sul diwethaf (26 Awst) fe werthwyd pob tocyn ymlaen llaw am yr ail wythnos yn olynol ar gyfer gig yng nghyfres Gigs Cantre’r Gwaelod yn y Bandstand, Aberystwyth.
Wythnos yn gynharach (Sul 19 Awst), roedd pob tocyn ar gyfer y gig prynhawn gyda Meic Stevens a Bwncath wedi eu gwerthu ymlaen llaw.
Ac roedd teimlad o deja vu yr wythnos hon wrth i bob tocyn ar gyfer y gig yng nghwmni Al Lewis a Sorela (Sul 26 Awst) gael eu gwerthu erbyn y dydd Gwener cyn y gig.
Bydd y gyfres o dri gig pnawn Sul yn dirwyn i ben ddydd Sul nesaf gyda pherfformiadau gan Siân James, Patrobas a Glain Rhys. Ac mae’r trefnwyr yn obeithiol o weld y trydydd gig yn llawn dop hefyd gyda thocynnau’n prysur brinhau.
Ymateb ardderchog
Mudiad nid-er-elw ydy Gigs Cantre’r Gwaelod, sy’n ceisio sicrhau bod mwy o gigs Cymraeg yn cael eu cynnal yn ardal Aberystwyth. Syniad y cerddor Steff Marc Rhys (Bwca) ydy’r prosiect, ac ef sy’n bennaf gyfrifol am y prosiect ac am drefnu’r gigs.
“Roedden ni’n gobeithio y byddai’r gigs yn boblogaidd, ond doedden ni ddim wedi disgwyl ymateb mor ardderchog â hyn” meddai Steff wrth drafod y gyfres gyfredol.
“Mae’r lein-yp ar gyfer y tri digwyddiad wedi bod yn reit wahanol, ond rydyn ni’n fwriadol wedi dewis llwyfannu artistiaid sefydledig a safonol dros ben ym mhob un. Mae’r gynulleidfa wedi amrywio rhwng y ddau gig cyntaf hefyd, felly gobeithio’n bod ni wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfa eang yn barod, ac mae’n edrych yn dda ar gyfer y gig olaf ar hyn o bryd – ychydig iawn o docynnau sydd ar ôl.”
Eglura Steff mai’r bwriad o gynnal y gigs ar brynhawniau Sul oedd i greu awyrgylch hamddenol, Gymreig ar y prom yn Aberystwyth, ond gan obeithio denu ymwelwyr di-gymraeg i gael blas o gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â chynulleidfa leol.
“Gigs Cantre’r Gwaelod ydy’r brand, ac mae defnyddio’r Bandstand yn gweddu’r brand i’r dim, a hefyd yn cynnig gofod unigryw a naws arbennig ar gyfer y gigs. Gobeithio y gallwn ni ddechrau cynllunio’r gyfres nesaf o gigs yn fuan iawn.”
Mae Gigs Cantre’r Gwaelod eisoes wedi trefnu dau gig arall cyn diwedd y flwyddyn, sef Band Pres Llareggub, Mr Phormula ac Alys Williams ar 21 Hydref, a Cabarela Nadolig, ar 23 Rhagfyr. Bydd y ddau gig yma’n cael eu cynnal mewn lleoliad gwahanol, sef Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.