Wrth i’r dyfalu barhau ynglŷn â lleoliad gigs Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, mae Cymdeithas yr Iaith ar y llaw arall wedi achub y blaen ac yn prysur gyhoeddi arlwy eu gigs nosweithiol yng Nghlwb Ifor Bach.
Cyhoeddwyd lein-yp rhai o nosweithiau cynnar yr wythnos rai wythnosau yn ôl, gyda Bryn Fôn, Adwaith a Plant Duw yn perfformio ar nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, sef 4 Awst.
Roedd lein-yps nos Sul 5 Awst, Llun 6 Awst, a nos Fawrth 7 Awst hefyd wedi eu cyhoeddi. Bandiau Caerdydd sy’n llenwi’r lein-yp ar y nos Sul, sef Breichiau Hir, Cadno, Hyll ac Wigwam. Yna ar y nos Lun bydd Candelas, HMS Morris a Papur Wal yn chwarae, tra bod Los Blancos, Serol Serol, ac Yr Eira ar lwyfan gig y nos Fawrth.
Erbyn hyn mae arlwy tair noson arall wedi eu cyhoeddi.
Meic Stevens, Heather Jones a Jamie Bevan fydd yn perfformio i’r Gymdeithas ar nos Fercher 8 Awst.
Mae nos Iau 9 Awst yn noson fywiog ac amgen sy’n cyfuno cerddoriaeth electroneg a dawns wrth groesawu Llwybr Llaethog, Tŷ Gwydr, Ani Glass a Pasta Hull i Glwb Ifor.
A’r lein-yp diweddaraf i’w gyhoeddi ydy hwnnw ar gyfer nos Wener 10 Awst gyda Gwenno, Omaloma, Pys Melyn a Bitw wedi eu cadarnhau.
Mae arlwy gigs y Gymdeithas ar gyfer yr wythnos bron iawn yn gyflawn felly, gyda dim ond lein-yp y nos Sadwrn olaf, ac o bosib uchafbwynt yr wythnos i lawr, i’w gadarnhau.