Griff Lynch yn rhyddhau pumed sengl

Mae Griff Lynch wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Sunset Dries’.

Rhyddhawyd y sengl gan Recordiau I KA CHING ddydd Gwener diwethaf (5 Hydref) a dyma’r pumed sengl i brif ganwr Yr Ods ryddhau’n unigol.

Mae’n dilyn ‘Hir Oes Dy Wen’, a ryddhawyd yn 2016, a ‘No One Cares’, ‘Don’t Count on Me’ a ‘Tynnu Dant’ a ryddhawyd yn 2017.

Dywed y label eu bod wedi penderfynu rhyddhau’r sengl newydd i nodi perfformiad byw prin gan Griff yng Ngŵyl Sŵn, Caerdydd ar 20 Hydref.

Griff ei hun sydd wedi cynhyrchu’r trac newydd, a disgrifir y trac newydd gan I KA CHING fel “pop ymlaciol perffaith.’

Dyma ‘Sunset Dries’ ar sianel YouTube Griff: