Mae albwm newydd Gruff Rhys, Babelsburg, wedi cyrraedd brig y siart Prydeinig ar gyfer gwerthiant trwy siopau annibynnol.
Rhyddhawyd albwm unigol diweddaraf Gruff Rhys ar label Rough Trade wythnos diwethaf, 8 Mehefin.
Dyma bumed albwm unigol Gruff, sydd hefyd yn aelod o’r Super Furry Animals wrth gwrs, ac mae’n dilyn Yr Atal Genhedlaeth (2005), Candylion (2007), Hotel Shampoo (2011) ac American Interior (2014).
Mae’r siart yn dynodi gwerthiant albyms mewn 100 o siopau annibynnol dros Brydain, boed yn werthiant feinyl, CD neu fformat arall.
Mae Gruff wedi curo’r ganores amlwg Lilly Allen i frig y siart, gyda’i halbwm newydd, No Shame, yn ail ar y rhestr. Mae Lilly’n ferch i’r comediwr, Keith Allen, a anwyd yng Nghymru.
Yn wir, mae golwg Gymreig iawn ar frig y siart gan mai grŵp arall o Gymru sy’n rhif 3 ar y rhestr, sef Boy Azooga, gyda’u halbwm 1 2 Kung Fu sydd wedi codi 38 safle ers yr wythnos flaenorol.
Dyma fideo sengl gyntaf yr albwm, ‘Frintier Man’: