Gruff Rhys yn cyhoeddi dyddiadau yng Nghaeredin

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi cyfres o ddyddiadau y bydd yn chwarae yng Nghaeredin fis Awst.

Bydd yn gwneud wyth perfformiad rhwng 17 Awst – 25 Awst, o dan y teitl “Gruff Rhys: Resist Phony Encores!”

Dyma’r esboniad ynglŷn â’r perfformiadau sydd wedi ei roi ar wefan y digwyddiad (sori ei fod yn yr iaith fain):

“Fictional musician Gruff Rhys, plays selections from his four decade career and explores how he overcame chronic shyness, stoner culture and communicative dysfunction, by placing commands on cue cards to whip audiences into a frenzy.

“His signs have been invaluable in a myriad of settings, from the Japanese Alps to the Siberian Tundra. They are his saviour, but on occasion, the cards have fallen into untrained hands leading to civil war, famine and social chaos.

“Join Gruff as he sings songs and harnesses the almost paranormal power of melody and the cue card.”

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y nosweithiau nawr.

Cyhoeddodd Gruff yn ddiweddar hefyd bod ganddo albwm newydd ar y ffordd, sef ‘Babelsberg’ fydd allan yn swyddogol ar 8 Mehefin ar label Rough Trade Records.

Mae modd clywed yr albwm ar wefan Rough Trade Records.