Mae sengl ‘Gwenwyn’ gan y grŵp o Lanrug, Alffa, wedi creu hanes trwy fod y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio miliwn o weithiau ar Spotify.
‘Gwenwyn’ ydy ail sengl Alffa ac fe’i rhyddhawyd ym mis Gorffennaf eleni ar label Recordiau Côsh.
Ers hynny mae’r trac wedi tyfu a thyfu mewn poblogrwydd ar wasanaeth ffrydio cerddoriaeth Spotify a dros y penwythnos fe gyrhaeddodd y ffigwr hud o filiwn ffrydiad – y gân gyfan gwbl Gymraeg gyntaf i wneud hynny.
A does dim arwydd bod poblogrwydd y gân yn arafu wrth iddi ddal i gal ei ffrydio filoedd o weithiau bob dydd.
Mae’n debyg mai cyfrinach y gân ydy ei bod wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r byd – o Dde America i Awstralia, Gogledd America i America a rhannau helaeth o Ewrop. Ymysg y gwledydd mae’r trac wedi bod yn fwyaf poblogaidd ynddyn nhw mae America, Brasil, Yr Almaen a Chanada. Mae’n debyg fod Alffa hefyd wedi llwyddo i greu argraff ym Mecsico a Thwrci!
Chwalu ffiniau
Heb os, mae gwaith da gan label Alffa, Recordiau Côsh, ac Yws Gwynedd sy’n rheoli’r label, i hyrwyddo’r trac yn effeithiol ar Spotify yn ran o gyfrinach llwyddiant ‘Gwenwyn’.
“Dwi’n teimlo’n lwcus iawn cael rhedeg y label mewn amser mor gyffrous lle mae ffiniau ieithyddol yn cael ei chwalu’n racs mewn storm berffaith” meddai Yws.
“Mae llwyddiant ‘Gwenwyn’ yn arwyddocaol mewn toman o ffyrdd, yr un mwyaf sylfaenol i’r band a’r label yw fod yr incwm ddaw o hyn yn mynd i ariannu albwm cyfan i’r band, ac ar ddiwedd y dydd, dyna da ni yma i wneud – creu cerddoriaeth o safon gan fandiau mwyaf cyffrous Cymru.”
Mae cwmni hyrwyddo PYST wedi bod yn gyfrifol am ddosbarthu ‘Gwenwyn’ ac mae Alun Llwyd o’r cwmni’n credu mai dim ond y dechrau ydy hyn i Alffa a cherddoriaeth Gymraeg.
“Mae llwyddiant Alffa a Côsh yn ysgubol” meddai Alun Llwyd.
“Am y tro cyntaf maent wedi llwyddo i ryddhau cân lle mae cryfder y gân a’r recordiad wedi golygu ei bod wedi cael miliwn o wrandawyr yn fyd-eang – rhywbeth cynt nad oedd yn bosibl i ganeuon mewn ieithoedd lleiafrifol. Ond y peth mwyaf cyffrous yw mae adlewyrchiad yw hyn oll o gyfoeth, cryfder a phrysurdeb toreithiog labeli ac artistiaid Cymru. Megis cychwyn yw hyn”
Mae ‘Gwenwyn’ wedi cyrraedd rhestr hir categori ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar, a’r grŵp hefyd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer gwobr y ‘Band Gorau’. Mae pleidlais gyhoeddus y gwobrau ar agor nawr.
Digwydd bod, mae erthygl yn trafod llwyddiant ffrydio cerddoriaeth Gymraeg yn 2018 yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan nawr. Mae Alffa ac Yws Gwynedd yn cael eu holi fel rhan o’r darn, ynghyd ag Adwaith sydd wedi gweld eu sengl hwythau, ‘Fel i Fod’, yn cael llwyddiant ysgubol ar Spotify yn ystod y flwyddyn.
Dyma fideo ‘Gwenwyn’ sydd hefyd i’w weld yn dechrau mynd yn feiral wrth i’r stori am lwyddiant y sengl fynd ar led!