Gwilym: Sengl newydd ac albwm i ddod

Mae’r band gipiodd un o deitlau Gwobrau’r Selar eleni, Gwilym, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Fyny Ac yn Ôl’ ddydd Gwener diwethaf, 6 Gorffennaf.

Dyma bedwaredd sengl y band, a’r olaf cyn iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, Sugno Gola, ar label Recordiau Côsh ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae Gwilym yn gymysgedd o aelodau o Wynedd ac Ynys Môn, a daethant i amlygrwydd wrth gystadlu ym Mrwydr y Bandiau Maes B / Radio Cymru llynedd, gan gyrraedd y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni.

Bydd nifer o ddarllenwyr yn cofio eu llwyddiantt yng Ngwobrau’r Selar eleni, wrth iddyn nhw  gipio teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ .

Cadw at y fformiwla

Mae Gwilym wedi datblygu enw fel band sy’n gallu cynhyrchu caneuon pop bachog gyda melodïau sy’n aros ym mhen y gwrandäwr am oriauar ôl clywed y gân.

Maent wedi cadw at fformiwla y senglau blaenorol a chyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts ar gyfer recordio ‘Fyny ac yn Ôl’ ac mae’r gân newydd yn meddu ar sŵn hollol gyfredol.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn dilyn llwyddiant sengl flaenorol y band, ‘Catalunya’, oedd yn Drac yr Wythnos Radio Cymru, ac a hawliodd le ar restr chwarae Radio Wales.

Bydd albwm cyntaf y band yn cael ei ryddhau ar 20 Gorffennaf ar Recordiau Côsh, a bydd yn cynnwys ‘Fyny ac yn Ôl’, yn ogystal â’r dair sengl flaenorol. Ymysg y caneuon newydd ar y casgliad bydd deuawd gydag artist arall newydd a chyffrous, Mared. Bydd yr albwm hefyd yn gyfle i weld mwy o waith celf gitarydd y band, Rhys Grail.

Bydd cyfle i weld Gwilym yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar benwythnos rhyddhau’r albwm, a hynny ar ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf. Mae ganddyn nhw hefyd nifer o gigs eraill dros yr haf, gan gynnwys Gŵyl Car Gwyllt ac yn Maes B Eisteddfod Caerdydd.

Gigs haf Gwilym sydd wedi’i cadarnhau:

13/7 – Clwb Rygbi Caernarfon
14/7 – Gŵyl Car Gwyllt, Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
21/7 – Sesiwn Fawr Dolgellau
7/8 – Caffi Maes B, ‘Steddfod Caerdydd
8/8 – Maes B, ‘Steddfod Caerdydd
9/8 – Llwyfan y Maes, ’Steddfod Caerdydd
1/9 – Gwyl Pendraw’r Byd, Aberdaron

Dyma fideo un o senglau blaenorol y band, ‘Cwîn’, a gyhoeddwyd gan Ochr 1