Go brin fod eich llyfrgell leol yn le amlwg ar gyfer dal perfformiadau byw gan artistiaid cerddorol cyfoes, ond dyna’n union fydd i’w weld mewn dwy lyfrgell yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd eleni.
Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir y tro yma rhwng 8 a 13 Hydref, ac fel rhan o’r gweithgarwch eleni bydd gigs byw yn cael ei llwyfannu mewn llyfrgelloedd yn Llandudno ac Abertawe.
Ac rydan ni’n falch iawn bod Y Selar yn ganolog i drefniadau digwyddiadau ‘Sŵn y Silffoedd’ wrth i ni gyd-weithio â chynllun Gorwelion y BBC i gynnal y ddau gig arbennig iawn mewn lleoliadau unigryw. Mae ffocws Wythnos Llyfrgelloedd eleni ar les, ac rydan ni’n teimlo bod llyfrgelloedd ar y naill law, a cherddoriaeth fyw ar y llall yn cynnig cyfleoedd arbennig i ddod â phobl ynghyd a goresgyn unigrwydd.

Mae wedi’i brofi ers talwm bod cerddoriaeth yn ffactor cadarnhaol o ran gwella lles a bydd hyn yn cael ei arddangos wrth i bedwar o fandiau gorau Cymru berfformio setiau yn Llyfrgell Llandudno a Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn Abertawe.
Amlygu rôl llyfrgelloedd
Ar brynhawn dydd Gwener, 12 Hydref bydd artist electronig Merthyr Eadyth a ffefrynnau Wrecsam Seazoo yn ymddangos yn Llyfrgell Llandudno a’r diwrnod canlynol bydd Eadyth yn perfformio eto ochr yn ochr â’r seirenau Norwyaidd o Ddinbych y Pysgod, I See Rivers yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
I gloi’r penwythnos bydd Llyfrgelloedd Caerfyrddin hefyd yn llwyfannu gig gyda’r band gwych Estrons ar brynhawn Sul, Hydref 14.
“Nod y rhaglen Gorwelion yw codi proffil cerddoriaeth o Gymru, gan weithio mewn ffyrdd eithaf arloesol i wneud hyn – a hefyd rhoi cyfle i fandiau newydd chwarae mewn amrywiol leoliadau i gynulleidfaoedd amrywiol” meddai Rheolwr Prosiect Gorwelion BBC Bethan Elfyn.
“Go brin y bydd llawer ohonynt wedi chwarae mewn llyfrgell o’r blaen ond mae’n gyfle gwych i amlygu’r rôl mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yng nghymdeithas heddiw ac i ddod â chynulleidfa newydd i’r llyfrgell.”

Annog cynulleidfaoedd newydd
Ac mae’n amlwg bod yr artistiaid yn edrych ymlaen ar gael perfformio mewn lleoliadau go wahanol hefyd.
“Alla i ddim aros am y gig hwn” meddai Ben Trow o’r band Seazoo.
“….fel band rydym yn gyfarwydd â chwarae mewn llawer o leoliadau gwahanol ond dyma fydd y tro cyntaf mewn llyfrgell gyhoeddus. Rwy’n credu ei bod hi’n wych bod llyfrgelloedd yn hyrwyddo’r fenter ac yn annog cynulleidfaoedd newydd i ddod i’w hadeiladau – a phrofi bod llyfrgelloedd yn cynnig gwasanaethau amrywiol o’r fath.”
Mae tocynnau ar gyfer y ddau gig yn rhad ac am ddim, ac mae modd i chi archebu eich e-docyn trwy safle Eventbrite. Mae’r tocynnau ar gael i’w harchebu ar gyfer gig Abertawe nawr, yn ogystal â gig Llyfrgell Llandudno ond y cyngor ydy i’w bachu’n fuan rhag cael eich siomi.
Gallwch ddysgu mwy am weithgareddau’r wythnos ar wefan Wythnos Llyfrgelloedd.