Gwobrau’r Selar – mwy o nosweithiau ond llai o docynnau!

Daeth yr amser unwaith eto i ddechrau cynllunio un o uchafbwyntiau’r flwyddyn gerddorol yng Nghymru, Gwobrau’r Selar. Ac wrth i ni gyrraedd seithfed blwyddyn cynnal digwyddiad byw i ddathlu llwyddiant y sin, rydan ni wedi penderfynu cyflwyno ambell newid fydd yn rhoi gwedd ychydig yn wahanol i’r achlysur…

Penwythnos 15-16 Chwefror ydy’r dyddiad pwysig i chi nodi yn eich dyddiaduron, ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ydy prif leoliad y gweithgarwch unwaith eto eleni.

Mae’r Gwobrau wedi tyfu i fod yn benwythnos llawn o ddathlu dros y blynyddoedd diwethaf, a byd hynny hyd yn oed yn amlycach eleni wrth i ni wasgaru’r Gwobrau dros ddwy noson fawr yn Undeb y Myfyrwyr.

Bydd nifer o’r Gwobrau, gan gynnwys y Wobr Cyfraniad Arbennig, yn cael eu cyflwyno ar y nos Wener yn ogystal â’r nos Sadwrn, a cracar o lein-yp yn perfformio ar y ddwy noson.

Yn ogystal â phrif gigs y Gwobrau, bydd nifer o weithgareddau llai o gwmpas Aber dros y penwythnos gan gynnwys Ffair Recordiau yn yr Hen Goleg a sgyrsiau cerddorol amrywiol.

Un newid amlwg arall eleni ydy bod llai o docynnau ar gyfer y nosweithiau. Dros y bedair blynedd ddiwethaf mae’r Gwobrau wedi denu dros 1,000 o bobl i’r Undeb ar y nos Sadwrn, ond dim ond 600 o docynnau fydd ar gyfer y naill noson a’r llall eleni.

Cyntaf i’r felin fydd hi, felly peidiwch oedi cyn archebu eich tocynnau – bydd modd prynu tocyn penwythnos am bris gostyngol.

Dewis yr enillwyr

Bydd y bleidlais gyhoeddus yn agor ar 1 Rhagfyr. Mae modd enwebu enwau i’w hystyried ar gyfer y categorïau nes 27 Tachwedd a wedyn bydd Panel Gwobrau’r Selar yn dewis y rhestrau hir ar gyfer y bleidlais.

Bydd modd i chi fwrw eich pleidlais trwy dudalen Facebook Y Selar cyn y dyddiad cau ar nos calan, sef 31 Rhagfyr.

Dros yr wythnosau rhwng hynny a phenwythnos y Gwobrau byddwn yn cyhoeddi y rhestrau byr yn seiliedig ar eich pleidleisiau.

Yn y gorffennol rydan ni wedi cyhoeddi enillydd ein Gwobr Cyfraniad Arbennig ar ddechrau mis Ionawr, ac mewn newid bach arall byddwn ni’n cyhoeddi enillwyr rhai o’r enillwyr eraill ymlaen llaw y tro yma er mwyn gallu rhoi mwy o sylw i’w gwaith da a chyfraniad i’r diwydiant.

Mae un categori newydd ar y rhestr eleni hefyd, sef Gwobr Seren y Sin gyda’r bwriad o wobrwyo rhywun sy’n gweithio’n ddiwyd i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ond efallai’n dawel bach yn y cefndir. Mae’r wobr yn un gweddol benagored – gall yr enillydd fod yn gynhyrchydd, neu flogiwr efallai – rydan ni’n chwilio am enwebiadau sydd ddim yn gymwys ar gyfer categorïau eraill y gwobrau, ond sy’n gwneud cyfraniad pwysig.

Dod i’r Gwobrau

Bydd modd prynu tocynnau Gwobrau’r Selar unwaith mae’r bleidlais wedi agor ar 1 Rhagfyr – bydd modd archebu tocynnau penwythnos ar-lein yn y lle cyntaf ac yn y man bydd tocynnau’r nosweithiau unigol ar gael mewn siopau penodol.  Gan bod y digwyddiad yn gwerthu allan fel arfer, a thipyn llai o docynnau na’r  arfer eleni, y cyngor ydy peidio oedi – bachwch eich tocyn yn gynnar!

Rydym wrth ein bodd yn gweld bysus o bob cwr o’r wlad yn teithio i Aberystwyth ar gyfer y Gwobrau, ac yn ôl yr arfer mae cynnig arbennig i unrhyw drefnydd bws. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion – gwobrau-selar@live.co.uk

Dyma restr lawn y categorïau eleni:

  • Record Fer Orau
  • Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat)
  • Hyrwyddwr Annibynnol Gorau
  • Gwaith Celf Gorau
  • Cyflwynydd Gorau
  • Artist unigol Gorau
  • Band neu artist newydd Gorau
  • Digwyddiad Byw Gorau
  • Band y Flwyddyn
  • Record Hir Orau
  • Gwobr Seren Y Sin / Arwr Tawel
  • Fideo cerddoriaeth gorau