Rydan ni yn Y Selar wedi bod yn dilyn datblygiad Alffa yn ofalus iawn dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, felly rydan ni’n falch iawn o’r cyfle i rannu eu sengl newydd sbon am y tro cyntaf gyda chi.
Heb oedi ymhellach, dyma ‘Gwenwyn’:
Bydd Alffa yn rhyddhau ‘Gwenwyn’ ddydd Gwener yma, 3 Awst, a dyma fydd y sengl gyntaf ganddyn nhw ar label Recordiau Côsh.
Mae wedi bod yn gyfnod bach cyffrous i Alffa, wrth iddyn nhw nesáu at ddiwedd blwyddyn lwyddiannus iawn i’r band.
Bron flwyddyn yn ôl, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, fe wnaethon nhw gipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru. Ers hynny, maen nhw wedi adeiladu ar eu llwyddiant mewn sawl ffordd, gan gynnwys gael ei henwi’n un o artistiaid cynllun Gorwelion eleni.
Dros y penwythnos, roedden nhw’n cefnogi enwau mawr fel Black Grape, John Power (Cast / The La’s), Bez a Steve Cradock (Ocean Colour Scene) yng Ngŵyl Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy.
Rhyddhau’r sengl newydd ‘Gwenwyn’ ddydd Gwener fydd y bennod ddiweddaraf yn stori llwyddiant Alffa dros y 12 mis diwethaf, ac mae’n ddilyniant teilwng i’r sengl lwyddiannus ‘Creadur’ a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni ganddynt.
Byddai’n deg i gymharu sŵn amrwd blŵs Alffa gyda bandiau cyfoes 2 aelod, fel Black Keys a Royal Blood, ac mae ‘Gwenwyn’ yn gyson â’r sŵn nodweddiadol hwnnw maen nhw wedi’i sefydlu.
Efallai y bydd steil unigryw gwaith celf y sengl newydd, a rhai diweddar Alffa, yn gyfarwydd i rai wrth iddynt gadw’r berthynas agos gyda’r dylunydd Rhys T. Grail, sydd hefyd yn gitarydd i un arall o un o fandiau Côsh, Gwilym.
Ac os ydach chi’n mentro i’r Eisteddfod yn y ddinas fawr ddrwg wythnos nesa, wel mae cyfleoedd i ddal Alffa’n perfformio’n fyw gyda slot ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 8 Awst, ac yng Nghaffi Maes B ar ddydd Iau 9 Awst.
Dyma sgwrs fach a recordiwyd gyda Sion a Dion o Alffa yn ystod Eisteddfod yr Urdd Llanelwedd eleni, lle wnaethon nhw ddatgelu eu bod yn gobeithio rhyddhau sengl newydd erbyn y Steddfod – et voila!