Gwrandawiad cyntaf o ‘Ffordd y Mynydd’ gan Mei Gwynedd

Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn ffrwd newyddion gwefan Y Selar dros y cwpl o fisoedd diwethaf yn gwybod bod albwm ar y ffordd gan Mei Gwynedd.

Mae Mei yn enw cyfarwydd i bawb sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes – yn gitarydd i Beganifs a Big Leaves, yn brif ganwr a gitarydd Sibrydion, ac yn aelod o Endaf Gremlin. Mae hefyd yn rhedeg label Recordiau Jigcal ac yn gyfrifol am waith cynhyrchu diweddar grwpiau fel Mellt, Cadno a Hyll – boi prysur!

Ond yn nghanol hyn oll mae wedi llwyddo i fynd ati i ysgrifennu a recordio ei albwm unigol cyntaf – bydd Glas allan ar Jigcal ar 29 Mehefin.

Wythnos ar ôl y dyddiad rhyddhau, bydd gig lansio arbennig ar gyfer yr albwm yn y Galeri yng Nghaernarfon – bydd cefnogaeth i Mei ar y noson gan Gwilym, sef enillydd categori Band neu Artist Newydd Gorau Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni wrth gwrs.

Taith Bywyd

I ddathlu, ac fel tamaid i aros pryd, mae’r Selar yn falch iawn i gydweithio gyda Mei a PYST i roi gwrandawiad cyntaf, ecsgliwsif i chi o un o draciau’r albwm newydd, ‘Ffordd y Mynydd’.

“Mae ’Ffordd y Mynydd’ yn gân am daith bywyd” meddai Mei am y trac.

“Mae pawb yn cerdded llwybr eu hunain, ac yn wynebu sialensau ar hyd y ffordd. Y neges yn y gân ydy, byddwch yn yn cool efo’ch cyd-ddyn/ddynes.”

Dyma ‘Ffordd y Mynydd’:

Cystadleuaeth

Os nad ydy gwrandawiad cyntaf o’r diwn yn ddigon o drît i chi, wel dyma un fach arall…sut hoffech chi gyfle i ennill copi o’r albwm newydd wedi’i lofnodi gan Mei Gwynedd? A be am bâr o docynnau i’r gig lansio hefyd?

Y cyfan sydd angen i chi wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod eich enw yn yr het ar gyfer ennill y wobr arbennig yma ydy rhannu naill ai ein post Facebook (isod) gyda dolen i’r dudalen yma, gan dagio un o’ch ffrindiau, neu ail-drydar ein neges Twitter (isod) gyda dolen i’r dudalen yma.

Pob lwc!