Gŵyl i gofio Chef

Ddydd Sadwrn mae gŵyl go arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin er cof am y cerddor a rapiwr Gareth ‘Chef’ Williams.

Bu farw Chef, oedd yn aelod o’r grŵp hip-hop arloesol, Tystion, ym mis Mawrth eleni ac mae rhai o’i ffrindiau wedi penderfynu mai’r ffordd orau o gofio amdano ydy ar ffurf gŵyl gerddorol y bydd yn falch ohoni.

‘Chefwyl’ ydy enw’r digwyddiad elusennol fydd yn cael ei gynnal yn lleoliad cerddorol amlwg Y Parrot ar Stryd y Brenin, Caerfyrddin ddydd Sadwrn, gyda cherddoriaeth fyw o 14:00 nes 01:00.

Mae’r lein-yp yn cynnwys Euros Childs, Alex Dingley, Los Blancos a set DJ Zabrinsky ymysg artistiaid eraill, gydag elw’r ŵyl yn mynd at ddwy elusen sef Dr. M’z, sy’n ganolfan ieuenctid yng Nghaerfyrddin, ac Uned Penderfyniadau Clinigol Ysbyty Glangwili.

Ysbryd y parti

Un o brif drefnwyr yr ŵyl ydy Aled Thomas, sy’n gyfrifol am gwmni hyrwyddo cerddoriaeth Beast PR, ynghyd â bod yn aelod o’r grŵp Tree of Wolves.

“Mae’r syniad o roi gŵyl arno er cof am Chef yn beth naturiol iawn i neud pan chi’n ystyried shwd fath o berson oedd Gareth” meddai Aled wrth Y Selar.

“Pob tro’n gwenu a byw bywyd ag ysbryd y parti.”

Cyfraniad Chef

Er na fyddai Chef efallai mor gyfarwydd i’r rhai sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg y tu hwnt i Gaerfyrddin dros y blynyddoedd diwethaf, roedd yn weithgar iawn tua diwedd y 1990au a dechrau’r mileniwm newydd. Fel yr eglura Aled…

“Yn y nawdegau hwyr, naughties cynnar, daeth ton mawr o fandiau allan o Ysgol Bro Myrddin yma yng Nghaerfyrddin…Gorkys, Texas Radio Band, Zabrinski, Doli…ac fe ddechreuodd Steffan Cravos a Chef ar daith y Tystion.

“Fi’n cofio clywed Tystion am y tro cynta, ar siwrne car efo Rhodri Kinaston, un o gymdogion Cravos yn Glynderi a oedd di cael gafael ar dâp [o’u cerddoriaeth].

“Fel cerddor bu Chef mewn i lawer o gerddoriaeth wahanol, bachan eclectig y diawl, felly roedd canu, rapio, chware gitâr a percussion yn dod yn hawdd iddo.

“Ma llwyddiant  tanddaearol Tystion, yn enwedig y nifer sesiynau efo’r diweddar John Peel yn gyfraniad pwysig dros ben i gerddoriaeth Cymru – un oedd yn siŵr o fod yn hwb i ddechreuad y symudiad ‘Cool Cymru’, wrth ddod a rap Cymraeg i gynulleidfa ddi-gymraeg.”

Cymysgedd

Gan bod Chef yn eclectig iawn ei ddiddordebau cerddorol, efallai ei fod yn naturiol gweld yr amrywiaeth o gerddoriaeth sydd ar lwyfan yr ŵyl sy’n dathlu ei fywyd.

“Nes i ac Angharad Griffiths, sef cyfnither Chef ddod lan â’r lein-yp” meddai Aled.

“Lein-yp eclectig a bydd pawb yn gallu mwynhau cerddoriaeth i bob teimlad. Mae gyda ni indie, gwerin, rockabilly, pop, Northern Soul, pync, a wrth gwrs hip-hop.”

Yn sicr, mae llawer o amrywiaeth cerddorol yn ystod y dydd, a bydd y parti’n parhau nes yr oriau mân. Ond beth fyddai’r dyn ei hun yn meddwl o’r ŵyl tybed?

“Fi’n hoff o feddwl bydde Chef wedi joio, gan bod ffrindiau a chwmni ar noson allan mewn gig, yn fwy pwysig iddo fe na phwy oedd yn chware fel arfer. Ond os ma’r gymysgedd yn iawn, mae’r cyfan yn cyfrannu at noswaith da.”

Mae Chefwyl yn cael ei gynnal yn Y Parrot, Caerfyrddin ddydd Sadwrn yma, 15 Medi. Drysau’n agor am 14:00 a thocynnau’n £20.

Dyma fedli bach o ganeuon Tystion o ddyddiau cyfres deledu Garej (o bosib?). Mae rap Chef ar ‘Gwyddbwyll’ (tua 4:50 ar y fideo) yn ddiarhebol…