Angerddol am gerddoriaeth a digwyddiadau?
Barod am eich sialens nesaf?
Ydych chi eisiau darganfod beth sy’n creu gŵyl?
Os felly, wel mae Gŵyl Sŵn eich angen chi!
Cynhelir Gŵyl Sŵn eleni rhwng 17 ac 20 Hydref ac mae’r trefnwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan, ac i helpu gyda’r gwaith dros y dyddiadau yma.
Ffurfiwyd Gŵyl Sŵn yn wreiddiol gan ein hoff DJ Radio 1, Huw Stephens, a’r hyrwyddwr John Rostron ym mis Tachwedd 2007.
Y syniad oedd i greu gŵyl gerddorol ddinesig yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio lleoliadau amrywiol ledled y ddinas gan efelychu’r math o naws sy’n perthyn i ŵyl South by South West yn Austin, Texas.
Dros yr 11 mlynedd ddiwethaf mae wedi sefydlu ei lle yn y calendr fel un o’r prif wyliau cerddorol Cymreig, gan roi llwyfan i gannoedd o artistiaid yn y brifddinas.
Pasio’r awennau
Eleni am y tro cyntaf mae’r ŵyl wedi ei throsglwyddo’n llwyr i ddwylo Clwb Ifor Bach, ond yr un yw’r drefn o ddefnyddio lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd dros y penwythnos.
Ac mae criw Clwb yn awyddus i ddenu unigolion brwdfrydig i chwarae rhan yn y digwyddiad, ac ennill profiad gwerth chweil yn y broses.
Yn ôl y trefnwyr, trwy wirfoddoli yng Ngŵyl Sŵn, fe fyddwch chi’n ennill profiad gwaith gwerthfawr ynghyd â sgiliau a gwybodaeth yn seiliedig ar ddigwyddiadau wrth gael hwyl, yn ogystal â gweld y bandiau mwyaf cyffrous.
Maent yn annog unigolion sy’n awyddus i helpu, neu fanteisio ar y cyfle, i fynegi eu diddordeb. Gallwch wneud hynny ar wefan Gŵyl Sŵn.
Bydd cyfnewidfa tocynnau Gŵyl Sŵn ar agor o ddechrau wythnos yr ŵyl ac mi fydd y gerddoriaeth yn dechrau ar Ddydd Mercher 17 Hydref gan orffen ar nos Sadwrn 20 Hydref. Ymysg yr enwau mawr sy’n perfformio eleni mae The Go! Team, Boy Azooga, Gaz Coombes, Gwenno, Estons, Zabrinsky a llawer iawn mwy.