Rhyddhawyd fideo newydd gan Ochr 1/HANSH gwpl o wythnosau nôl sy’n dilyn y band ifanc o Fôn ac Arfon, Gwilym, wrth iddynt ffilmio eu fideo cyntaf i’r sengl ‘Cwîn’.
Ffilmiwyd y fideo yn Shed, Y Felinheli ac fe’i gyfarwyddwyd gan Aled Rhys Jones.
‘Cwîn’ oedd ail sengl y band o Ynys Môn ac Arfon, ac fe’i rhyddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn ar Recordiau Côsh.
Mae aelodau Gwilym, sef Ifan, Llyr, Rhys a Llew, wrthi’n gweithio ar eu halbwm cyntaf, a bydd hwn yn cael ei ryddhau gan Recordiau Côsh erbyn yr haf yn ôl pob tebyg.
Mae’r eitem fideo newydd gan griw Ochr 1 yn dilyn y broses o greu’r fideo ar gyfer y sengl, yn barod i’w ryddhau gan Ochr 1.
Mae’n trafod cysyniad y fideo, a rhai o’r technegau sy’n cael eu defnyddio i greu’r effaith roedden nhw eisiau. Mae Ifan, canwr Gwilym, yn datgelu bod fideos y grŵp Ok Go yn ddylanwad mawr arnyn nhw wrth greu fideo ‘Cwîn’.
Mae modd gwylio’r fideo ar ffrwd Facebook Hansh nawr
G W I L Y M 👑 C W Î NDyma hanes Ifan, Llyr, Rhys a Llew yn ffilmio eu fideo cynta… linc i’r fideo llawn yn y sylwadau!
Posted by Hansh on Friday, 25 May 2018