Mae HMS Morris wedi cyhoeddi eu bod wedi ymuno â label recordio Bubblewrap Collective o Gaerdydd, a’u bod am ryddhau albwm gyda’r label fis Medi yma.
Rhyddhaodd y triawd pop electronig eu halbwm cyntaf, Interior Design, yn annibynnol yn Nhachwedd 2016 ac fe ddenodd adolygiadau ffafriol o sawl cyfeiriad gan gynnwys cyhoeddiadau amlwg fel Clash Magazine, Buzz Magazine ac wrth gwrs Y Selar.
Roedd yr albwm hefyd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017.
Dilynodd y sengl ddwbl ‘Morbid Mind / Arth’ yn Ebrill 2017, unwaith eto’n cael ei rhyddhau’n annibynnol gan y grŵp.
Er hynny, ar gyfer eu hail albwm, maen nhw wedi penderfynu ymuno â label, a hwnnw’n un o labeli bach mwyaf cyffrous Cymru.
Mae Bubblewrap yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth diweddar The Gentle Good, gan gynnwys y record enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd, Ruins / Adfeilion.
Ymysg yr artistiaid eraill ar y label mae Boy Azooga, Ivan Moult a Sweet Baboo.
“Bydd hi’n neis bod yn y teulu bach twym [o artistiaid]” meddai Heledd Watkins o’r grŵp wrth drafod gyda’r Selar ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd yn ddiweddar.
Enw albwm newydd HMS Morris fydd Inspirational Talks, ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar 21 Medi.
Mae Bubblewrap yn cael eu hadnabod am waith celf trawiadol eu recordiau, ac am ryddhau llawer o’u deunydd ar feinyl. Ac, mewn sgwrs fideo diweddar gydag Y Selar, fe ddatgelodd HMS Morris bod yr albwm newydd i’w ryddhau ar feinyl…mmmmm, feinyl.
Dyma’r sgwrs lawn gyda Heledd a Sam o HMS Morris yn Eisteddfod yr Urdd eleni…