Hubba Bubba Omaloma

Roedd criw Y Selar yn mwynhau cnoi a chwythu bybyls Hubba Bubba yn yr ysgol, ond rydan ni hefyd yn mwynhau brand newydd o bybylgym er wythnos diwethaf.

Cyfeirio ydan ni wrth gwrs at sengl newydd Omaloma, ‘Bubblegum’, gafodd ei ryddhay’n swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 9 Mawrth, ar label Recordiau Cae Gwyn.

Roedd 2017 yn flwyddyn gofiadwy i Omaloma, wrth iddynt hudo clusiau Cymru, a thu hwnt, gyda’i pop gofodol o  Ddyffryn Conwy. Ac mae’n argoeli bydd 2018 yr un mor gyffrous i brosiect George Amor.

Mae’r sengl newydd yn cael ei rhyddhau’n ddigidol, yn ogystal ag ar feinyl 7” (mmmm, feinyl).  A’r newyddion da pellach ydy bod ochr B i’r record hefyd, sy’n cynnwys fersiwn estynedig o’r gân ‘Aros o Gwmpas’, sef un o anthemau mwyaf  haf 2017, oedd hefyd yn un o’r dair cân i gyrraedd rhestr fer categori ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar.

Cafodd y sengl ei recordio a’i chynhyrchu gan un o aelod Omaloma, Llŷr Pari, yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed gydag Iwan Morgan yn gyfrifol am y gwaith mastro.

Mae clawr trawiadol i’r sengl hefyd, gyda gwaith celf gan Mikey Burey, a’r gwaith dylunio gan Daf Owain.

I selio dechrau da Omaloma i’r flwyddyn, maent hefyd yn cefnogi Gwenno mewn saith sioe fel  rhan o’i thaith o amgylch y Deyrnas Unedig, sydd eisoes wedi dechrau. Ond mae dal cyfle i ddal Omaloma’n perfformio mewn pedwar dyddiad ar y daith, sef:

16/03/2018 – Rialto, Brighton

17/03/2018 – Neuadd Gerddoriaeth, Ramsgate

23/03/2018 – Bullingdon, Rhydychen

12/04/2018 – Neuadd Hoxton, Llundain

Mae modd archebu  Bubblegum ar safle Bandcamp Omaloma nawr.