Hwyl fawr CaStLeS…helo Worldcub

Mae’r grŵp ardderchog o’r gogledd, CaStLeS, wedi cyhoeddi eu bod wedi newid enw’r band.

Cyhoeddodd y grŵp wythnos diwethaf mai ‘Worldcub’ ydy eu henw newydd, ac yn ôl yr aelodau mae nifer o resymau dros y penderfyniad i newid enw.

Ffurfiodd CaStLeS yn wreiddiol fel deuawd, a hynny ddegawd yn ôl bellach a meddai’r grŵp bod llawer o ddŵr wedi llifo dan y bont ers hynny, a’i bod yn bryd am newid.

“’Da ni wedi datblygu lot ers yr amser pan oeddan ni’n ddeuawd, ac yn teimlo fod yr enw CaStLeS / Cestyll wedi bod yn rhoi delwedd reit gryf ym meddyliau pobl cyn iddynt wrando ar ein stwff, sydd erbyn heddiw yn ddelweddau cyferbyniol i’r gerddoriaeth” meddent.

Yn ôl y aelodau, roedden nhw’n awyddus i symud at ddefnyddio enw mwy “unigryw, llai darluniadol a generig” ac yn teimlo mewn gwirionedd y dylen nhw fod wedi newid yr enw beth amser yn ôl.

“Mewn ffordd ‘da ni ddwy neu dair blynedd yn hwyr yn gwneud hyn!

“Ac wrth gwrs mae yna nifer o fandiau eraill yn defnyddio’r enw Castles heddiw, a dydan ni ddim yn teimlo’n bod ni wedi mynd mor boblogaidd nes bod yn enw newydd yn mynd i amharu gormod ar y band.”

Dim newid mawr

Er bod yr aelodau’n teimlo bod yr amser yn iawn i newid enw’r grŵp, maent yn mynnu na fydd hynny’n dynodi newid cyfeiriad mawr yn gerddorol.

“Does dim newid mawr i’r gerddoriaeth, dim ond yr enw. Mae deunydd yr albwm newydd wedi datblygu o’r albwm cyntaf, gydag ychydig o ganeuon a gafodd eu sgwennu yn yr un cyfnod hyd yn oed, felly does dim rhaid poeni am unrhyw newidiadau difrifol.”

Wrth sgwrsio gydag Y Selar, datgelodd y grŵp bod ganddynt ddigon o ganeuon newydd ar gyfer albwm, sydd wrthi’n cael ei recordio.

Eu bwriad ydy rhyddhau senglau yn gynnar yn y flwyddyn newydd, gydag albwm llawn i ddilyn yn ddiweddarach yn 2019. Ond, maent wedi awgrymu bod posibilrwydd o damaid i aros pryd hyd yn oed cyn hynny.

Ac er na fydd y sŵn ar y cyfan yn rhy anghyfarwydd, byddan nhw’n ychwanegu ambell elfen newydd i setiau byw Worldcub.

“Da ni wedi bod yn arbrofi efo gêr newydd i gael gwell opsiynau efo’r sŵn, a mi fyddan ni’n dod ag aelod newydd neu ddau i mewn i helpu gyda setiau byw.

“Felly mae pawb yn edrych ymlaen at gyflwyno ‘chydig o ganeuon newydd i’r byd.”

Deng mlynedd o CaStLeS

Ffurfiwyd CaStLeS yn wreiddiol yn 2008 fel prosiect y ddau frawd Dion a Cynyr Hamer. Ymunodd Calvin Thomas, oedd yn aelod o’r band poblogaidd Derwyddon Dr Gonzo, yn ddiweddarach i ffurfio’r triawd terfynol sydd bellach wedi troi’n Worldcub.

Cymerodd y grŵp egwyl yn 2011 wrth i’r brodyr deithio’n rhyngwladol gyda We Are Animal, cyn dod ynghyd unwaith eto a rhyddhau eu EP cyntaf, ‘PartDepart’, yn 2015.

Flwyddyn yn ddiweddarch fe’u henwyd fel un o 12 artist cynllun Gorwelion yn 2016, gan ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘Fforesteering’, yn ystod y flwyddyn honno hefyd.

Dyma ‘Torri’ o set y band yng Ngwobrau’r Selar llynedd: