Ifan Prys sydd wedi bod yn gwrando ar gasgliad aml-gyfrannog label Recordiau Libertino…
Dwi wrth fy modd efo’r casgliad yma, a hynny gan ei fod o’n adlewyrchiad gonest o’r amrywiaeth o artistiaid ac arddulliau cerddorol sydd gennym ni yng Nghymru heddiw. Er bod hynny’n amlwg yn barod, dyma albwm sy’n cynnig rhywbeth ffresh a chyfoes i’r sin, ac mae hynny i’w groesawu.
Cofnod arbennig o wyth mis cyntaf y label Libertino ydi ‘I’r Gofod A Byth Yn Ȏl’ Libertino MIX 1, ac mae’n cynnwys traciau gan artistiaid sefydlog yn ogystal ag artistiaid sydd am fod yn cydweithio gyda’r label y flwyddyn hon.
Dyma gyfanwaith felly sy’n cynnig y gorau o’r ddau fyd, wrth inni gael clywed rhai o ganeuon mwyaf 2017 a blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl.
Yn ogystal â rhoddi llwyfan i fandiau newydd, dyma gasgliad sy’n rhoddi llwyfan i arbrofi a chasgliad sy’n dangos nad oes rhaid i gerddoriaeth fod yn berffaith. O ystyried hynny, teg dweud bod y casgliad yn dangos bod dyfodol disglair i’r Sin Gerddoriaeth yng Nghymru, gan ei fod yn dangos nad oes ffiniau i gerddoriaeth.
Dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy gan holl artistiaid Libertino dros y flwyddyn i ddod, gan obeithio y bydd casgliad tebyg yn cael ei ryddhau yn dilyn hynny. Eisteddwch ’nôl a mwynhewch.