Mae wedi bod yn gwpl o wythnosau difyr i Adwaith.
Wythnos diwethaf fe ddenodd eu cân ‘Fel i Fod’ dipyn o sylw wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei defnyddio ar fideo i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru yn eu gemau diweddar yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Rwsia.
Mae’r diwn wedi wedi cael llawer o sylw ers ei rhyddhau yn gynharach yn y flwyddyn, yn enwedig ar Spotify, wrth iddi gael ei ffrydio dros 150,000 o weithiau erbyn hyn.
Ond ymhell o orffwys ar rwyfau llwyddiant eu senglau diwethaf, maen nhw hefyd wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu sengl nesaf.
Bydd y lansiad yn digwydd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 13 Gorffennaf 2018 fel rhan o’r noson ‘Femme’ ddiweddaraf i’r chynnal ar y cyd rhwng Clwb Ifor ac Adwaith. Bydd Cadno a Flöat yn perfformio hefyd gyda Pat Datblygu yn DJio.
Mae Y Selar wedi cael ar ddeall mai Gartref ydy enw’r sengl newydd…ac i ddweud y gwir, rydan ni wedi bod yn ddigon ffodus i gwrandawiad bach slei arni, ac mae saff dweud ei bod yn swnio bach yn wahanol i stwff blaenorol y band, ond yn swnio yr un mor cŵl.
Bu Y Selar yn sgwrsio gydag Adwaith yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar, a bu’r aelodau’n sôn am gynlluniau rhyddhau eu halbwm cyntaf yn yr hydref (fydd allan ar blwmin feinyl prydferth), ynghyd â thaith fach gyda Gwenno. Mwy am hynny isod…