Lansio albwm cyntaf Accü

Mae albwm cyntaf Accü, sef prosiect cerddorol diweddaraf Angharad van Rijswijk, allan yn swyddogol ers dydd Gwneer 26 Hydref.

Mae modd ffrydio a lawr lwytho’r casgliad newydd yn ddigidol bellach, a bydd modd prynu copïau caled ar 2 Tachwedd.

Echo The Red ydy enw casgliad cyntaf cyn aelod y grŵp Trwbador, ac rydym eisoes wedi cael dau damaid i aros pryd ar ffurf y senglau ‘Am Sêr’ a ryddhawyd ddiwedd mis Awst, a ‘Did You Count Your Eyes?’ a ryddhawyd ym mis Mai.

Mae’r albwm eisoes wedi cael croeso cynnes o sawl cyfeiriad, gan gynnwys sylw ar wefan gerddoriaeth amlwg The Quietus, ynghyd â chyfweliad gydag Angharad.

Bydd lansiad swyddogol yr albwm yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Wener 2 Tachwedd gyda chefnogaeth gan Oh! Peas, Zac White o’r grŵp Buzzard Buzzard Buzzard a set DJ gan Euros Childs.

Dyma fideo’r sengl ‘Am Sêr’ a gyfarwyddwyd gan Eilir Pierce ar gyfer Ochr 1: