Lansio calendr gigs newydd Y Selar

Mae Y Selar yn falch iawn i lansio ein calendr gigs newydd sydd bellach yn fyw ar wefan selar.cymru.

Y calendr newydd ydy un o’r adrannau diweddaraf i ni lansio ar wefan newydd Y Selar, sydd bellach yn fyw ers rhai misoedd. Mae’r fersiwn newydd o’r wefan wedi’i ddatblygu gyda chymorth grant cronfa Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Mae’r wefan yn ddatblygiad pwysig i ni, ac yn ganolbwynt llawer mwy hygyrch ar gyfer newyddion cerddoriaeth, a’r gwaith hyrwyddo’r sin gerddoriaeth gyfoes mae Y Selar yn ei wneud.

Nawr, mae dwy adran newydd yn cael eu hychwanegu i’r wefan, sef y calendr gigs yn ogystal ag adran ‘proffiliau artistiaid’ newydd sy’n gysylltiedig â’r calendr.

Mae’r calendr yn ddatblygiad eithaf arloesol gan ei fod yn tynnu gwybodaeth am gigs o ‘ddigwyddiadau’ Facebook. Os ydy rhywun yn creu digwyddiad Facebook i hyrwyddo eu gig, yna mae modd i’r manylion fwydo’n uniongyrchol i galendr gigs Y Selar.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch fwriadol i annog trefnwyr i ddefnyddio Facebook yn fwy effeithiol i hyrwyddo eu gigs. Yn ôl yr ymchwil mae Y Selar wedi’i wneud, Facebook ydy’r ffordd mwyaf cyffredin i bobl ddod i wybod am ddigwyddiadau a gigs yn benodol.

“Rydan ni wedi gwneud tipyn o ymchwil ymysg gwahanol grwpiau o bobl, a heb os, drwy Facebook mae’r mwyafrif o bobl yn clywed am gigs erbyn hyn” meddai Uwch-olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Er bod y rhan fwyaf o bobl yn creu digwyddiadau Facebook i hyrwyddo eu gigs bellach, mae llawer sy’n parhau i beidio am rhyw reswm. Gobeithio bydd y calendr newydd yn ysgogiad arall i annog hyrwyddwyr i ddefnyddio’r cyfrwng, gan roi hwb i’r ymwybyddiaeth o gigs Cymraeg sy’n digwydd.”

Rhestr cyflawn o Gigs y Steddfod

Gyda’r datblygiad  y cael ei lansio ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae’n addas mai y calendr ydy’r unig le i weld rhestr lawn o holl gigs wythnos yr Eisteddfod.

Yn wir, mae modd i chi gynllunio’ch wythnos yn fanwl, a gwneud yn siŵr nad ydy’ch yn colli yr un gig rydach chi am weld trwy ddefnyddio nodwedd lunio amserlen bersonol y calendr a hefyd yrru nodyn atgoffa i galendr eich dyfais symudol.

“Rydan ni’n gyffrous iawn ynglŷn â’r ffordd mae modd personoli’r calendr trwy gadw eich amserlen gigs bersonol wrth glicio’r eicon seren wrth ochr y gigs, yn ogystal â yrru nodyn atgoffa i galendr eich dyfais symudol fydd yn gyrru hysbysiad i’ch atgoffa am y gigs ymlaen llaw.”

Calendr gigs cynhwysfawr

Y gobaith ydy creu calendr cynhwysfawr o gigs, sy’n diweddaru’n gyson, ar wefan Y Selar ond bydd modd i bobl eraill ddefnyddio fersiwn o’r calendr ar eu gwefannau neu flogiau yn y dyfodol agos.

Mae Y Selar eisoes yn cydweithio â Radio Cymru a Hansh/Ochr 1 gan rannu gwybodaeth am gigs ar gyfer eu rhaglenni a Gigiadur Hansh – felly os ydych am sicrhau sylw i’ch gigs ar raglennu Radio Cymru a Hansh, yna gwnewch yn siŵr bod y manylion yn cyrraedd calendr gigs Y Selar.

Mae modd i unrhyw un gyflwyno manylion eu gigs, naill ai trwy gopi-pastio URL eu digwyddiad Facebook, neu roi’r manylion llawn i mewn ar y dudalen Gigs Newydd.

Yn ogystal â’r calendr, mae adran proffiliau bandiau wedi ei lansio ar wefan Y Selar. Mae’r adran yma’n gweithio’n agos gyda’r Calendr newydd, a bydd modd clicio ar broffil yr artist i weld rhestr eu gigs nesaf, ynghyd â straeon newyddion am yr artist sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Y Selar. Mae’r adran yma’n cael ei lansio ar ffurf Beta ar hyn o bryd, a bydd yn datblygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf.

Felly, crëwch ddigwyddiadau Facebook ar gyfer eich gigs, a bwydwch yr wybodaeth i Galendr Gigs Y Selar er mwyn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib.