Lansio Sel-sig

Mae cynllun newydd i hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn y Gorllewin yn chwilio am fwy o bobl frwdfrydig i fod yn ran o’r prosiect.

Mae Sel-Sig yn gasgliad o bobl greadigol, ifanc yn Sir Benfro ac maent yn edrych am gyfranwyr gyda’r gwahoddiad i ymuno yn agored i bawb.

Nod Sel-Sig yw creu rhwydwaith o bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru i greu a hyrwyddo digwyddiadau celfyddydol. Maen nhw’n chwilio am bobl ifanc frwdfrydig i fod yn rhan o’r prosiect; i greu cerddoriaeth, dylunio posteri a threfnu gwyliau.

Mae Sel-Sig yn rhan o weithgareddau ‘Y Digwyddiad’, sef cynllun gan Fenter Iaith Sir Benfro sy’n trefnu digwyddiadau – o ddylunwyr, artistiaid, cerddorion, cynhyrchwyr, trefnwyr, ffotograffwyr, awduron a ffans. Cynnal digwyddiadau’n cynnwys gigs, arddangosfeydd, ffilmiau, zines, gŵyliau a phethau ar-lein yw’r bwriad.

Os am ymuno gyda Sel-Sig, cysylltwch â Nico Dafydd am fwy o wybodaeth. Bydd cyhoeddiad yn fuan am weithgaredd nesaf y cynllun.