Bydd yr artist ifanc o Ddolgellau, Lewys, yn rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener yma, 5 Hydref.
Ac mae Y Selar yn falch iawn i gyd-weithio gyda label Recordiau Côsh ac asiantaeth Pyst i gynnig cyfle cyntaf i glywed y sengl newydd yma ar ein gwefan. Mwynhewch….
‘Camu’n Ôl’ ydy enw trydedd sengl Lewys, gan ddilyn y ddwy flaenorol ‘Yn Fy Mhen’ a ‘Gwres’ a gafodd dderbyniad cynnes gan y cyfryngau a’r gwrandawyr.
Brolia’r label bod y gân newydd yn dangos gallu Lewys i fynd heibio i’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fand roc indî, trwy ‘ddeialu yn ôl ar y tempo ac ychwanegu teimlad drwy ddefnyddio synau organig a thywyll.’
Mae’n debyg bod yr alaw wedi’i chyfansoddi gan Lewys ers rhai misoedd, ond fod y geiriau wedi eu hysgrifennu’n fwy diweddar. Ac mae rhywfaint o’r diolch am y geiriau i reolwr label Côsh, Yws Gwynedd, wrth iddo gwrdd â’r cerddor ifanc am sesiwn ysgrifennu yn Nhŷ Siamas, Dolgellau, ar ddiwrnod gwlyb ym mis Awst.
Yn ystod y sesiwn honno, datblygodd y cysyniad ar gyfer y gân, sef dychmygu cerdded trwy Efrog Newydd hollol wag yn ystod noson lawiog a niwlog gaeafol.
A beth am deitl y sengl? Wel, roedd gitâr wedi’i recordio am yn ôl ar fersiwn demo y trac, felly datblygwyd y geiriau i adlewyrchu’r teimlad o gamu’n ôl er mwyn gwerthfawrogi’r hyn sydd o dy flaen.
“Swni’n deud bod o’n sôn am gamu’n ôl, gweld y darlun cyfan” meddai Lewys wrth drafod y sengl gydag Y Selar.
“…symud ymlaen o dy broblemau ac ati, a theimlo’r ewfforia sy’n dod o hynny. Rhyw fath o daith feddyliol?”
Er yn gwerthfawrogi’r sentiment, mae’n deitl digon eironig yn ein tyb ni gan nad oes amheuaeth mae camu yn ei flaen gyda’i yrfa gerddorol addawol iawn mae Lewys gyda’r sengl newydd.
Prawf pellach o gamau breision, a datblygiad cyflym Lewys ar hyn o bryd ydy’r ffaith ei fod wedi ffurfio band ers rhyddhau’r sengl ddiwethaf. Mae hefyd yn cynllunio gigio’n rheolaidd dros y flwyddyn nesaf, gan anelu at fod ar lein-yps gwyliau cerddorol ledled Cymru yn ystod 2019.
Yn y cyfamser, mae ganddo lond llaw o gigs wedi eu trefn rhwng hyn a diwedd y flwyddyn:
20/10/18 – Gŵyl Sŵn, The Moon, Caerdydd
27/10/18 – Parti Calan Gaeaf Sesiwn:Session, CPD Tref Llanidloes
1/2/18 – Tŷ Pawb, Wrecsam