Llwyddiant Spotify yn arwain at albwm i Alffa

Oni bai eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof dros yr wythnos diwethaf, fe fyddwch chi wedi clywed am lwyddiant aruthrol Alffa, a’u sengl ‘Gwenwyn’ ar Spotify.

Mae’r grŵp ifanc o Lanrug wedi creu hanes trwy fod y grŵp cyntaf i gyrraedd y ffigwr hudol hwnnw o filiwn ffrydiad ar gyfer cân sy’n cael ei chanu’n gyfan gwbl yn y Gymraeg.

Rydan ni’n disgwyl y newyddion ers peth amser wrth gwrs, diolch i ddiweddariadau rheolaidd Recordiau Côsh, label Alffa, a chwmni hyrwyddo a dosbarthu PYST, bob tro roedd Gwenwyn yn cyrraedd carreg filltir o ran ei hystadegau ffrydio. Er hynny, wrth i’r stori dorri o’r diwedd fore Sul, roedd yn newyddion hynod gyffrous, ac yn rhoi rhyw deimlad bod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes o’r diwedd wedi cracio’r farchnad ffrydio.

Y gred cyn hyn i raddau oedd nad oedd unrhyw arian sylweddol i’w wneud o ffrydio cerddoriaeth ar y prif lwyfannau ffrydio, a Spotify yn benodol. Dyma brif ddadl cwmni Sain dros ffurfio Apton yn y bôn – doedd Spotify ddim yn talu breindal digon da i artistiaid Cymraeg elwa’n ariannol o’r gwasanaeth.

Mae Alffa, trwy gyrraedd miliwn ffrydiad wedi gwrthbrofi’r honiad yma wrth i Yws Gwynedd, rheolwr Recordiau Côsh, gyhoeddi bod y gamp wedi cynhyrchu digon o arian i dalu am recordio a rhyddhau albwm cyntaf y ddeuawd.

“Mae llwyddiant ‘Gwenwyn’ yn arwyddocaol mewn toman o ffyrdd, yr un mwyaf sylfaenol i’r band a’r label yw bod yr incwm ddaw o hyn yn mynd i ariannu albwm cyfan i’r band” meddai Yws dros y penwythnos wrth i’r newydd dorri.

Hyrwyddo effeithiol

Y gwir amdani ydy bod gan Yws Gwynedd le reit bwysig yn y stori lwyddiant yma, law yn llaw a’i berthynas effeithiol gyda PYST.

Mae’n amserol iawn bod erthygl yn trafod llwyddiant diweddar ffrydio cerddoriaeth Gymraeg yn rhifyn newydd Y Selar, a bod Yws, ynghyd ag Alffa ac Adwaith, yn un o brif ffynonellau’r darn.

“Dwi’n licio stats. Mor syml â hynny” meddai Yws yn yr erthygl.

Mae ei obsesiwn gydag ystadegau, a’r cyfoeth ohonyn nhw sydd ar gael i artistiaid a labeli ar Spotify, wedi arwain Yws at ddysgu mwy, arbrofi ac yn y pendraw ffeindio fformiwla ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn effeithiol ar y llwyfan ffrydio enfawr.

Rydan ni i gyd yn gwybod bod rhestrau chwarae – playlists – yn allweddol i gyrraedd cynulleidfa ehangach ar Spotify, ac un peth mae Yws wedi mynd ati i wneud ydy creu rhestrau chwarae Cymraeg poblogaidd – ‘Clwb Can Mil’ a ‘C’est Bon’ yn benodol. Mae rhain wedi bod yn ffordd effeithiol iddo hyrwyddo cerddoriaeth Côsh, a chaneuon Cymraeg eraill.

Rhan arall o gyfrinach ‘Gwenwyn’ a ‘Fel i Fod’ gan Adwaith (y gân Gymraeg gyfredol nesaf i gyrraedd y miliwn efallai) ydy eu bod nhw wedi eu cynnwys ar restrau chwarae o bwys rhyngwladol – mwy am hyn yn yr erthygl yn y cylchgrawn.

Wrth gwrs, mae elfen o lwc i’r esiamplau yma, ac mae pethau fel bod ar gynllun Gorwelion a thrwy hynny weld y caneuon hyn yn cael eu defnyddio ar fideos Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn siŵr o fod wedi helpu.

Yr awgrym clir felly ydy mai nid y cyfrwng ei hun sydd wedi bod yn rhwystr i gerddoriaeth Gymraeg elwa, ond yn hytrach y diffyg dealltwriaeth i ddefnyddio’r cyfrwng yn effeithiol…tan rŵan.

Mae lle mae hyn oll yn gadael Apton yn gwestiwn arall!

Albwm Alffa

Mae’r ffordd mae artistiaid a labeli yn gwneud arian allan o Spotify yn gymhleth, ac yn draethawd hir ynddo’i hun, ond y pwynt pwysig fan hyn ydy bod un gân Gymraeg wedi cynhyrchu digon o incwm ar Spotify mewn cwta chwe mis i gyfro costau recordio a rhyddhau albwm cyfan. Ac yn ôl Côsh, mae hynny’n cynnwys costau rhyddhau a dyblygu’r record ar ffurf copi caled h.y. CD, sy’n dod yn beth anos i labeli gyfiawnhau o ran cost.

Wrth feddwl am y peth, mae’r ymarfer wedi bod yn ymchwil farchnad arbennig o dda gan Côsh os dim arall. Mae Alffa wedi profi bod cynulleidfa fawr ar gyfer eu cerddoriaeth ym mhob cwr o’r byd ac ar ben hynny wedi cynhyrchu digon o arian i ryddhau albwm – go brin y gallai Côsh wrthod!

“O be da ni’n ddeall fydd yr holl bres yn galluogi ni i recordio albwm yn braf” meddai Sion, drymiwr Alffa.

“Da ni hanner ffordd drwy ysgrifennu’r albwm ond y gobaith ydy gwneud tipyn dros y Nadolig gan fod Sion adre o’r Brifysgol” ychwanega Dion, gitarydd a chanwr y grŵp.

Mae Yws Gwynedd yn cadarnhau y gallwn ni ddisgwyl cynnyrch newydd yn fuan iawn gan Alffa.

“Y gobaith ar gyfer 2019 ydi i ryddhau dwy sengl newydd, un mor fuan ag Ionawr, a chael albwm allan yng nghanol yr haf” meddai cyn mynd ymlaen i drafod sut mae cytundeb recordio albwm gyda label yn gweithio fel arfer.

“Fel sy’n gyffredin, mae’r label yn talu am recordio a hyrwyddo a chynhyrchu, ac mae’r gost yma’n debyg i fenthyciad i’r band.”

“Di’r band ddim yn ennill breindal gwerthiant nes bod y label wedi cyflawni ‘recoup’. Diolch i’r llwyddiant [gyda ‘Gwenwyn’], bydd dim arian i ad-ennill, felly fydd siâr y band o elw’r albwm yn cael ei dalu’n syth iddyn nhw.”

Ac wrth reswm, mae hyn yn fanteisiol iawn i’r band ac i’r label.

Model newydd

Mae’r chwyldro digidol, a ffrydio cerddoriaeth yn benodol, wedi golygu cwymp mewn gwerthiant CDs, sy’n destun tristwch i lawer. Ar y llaw arall, gellir dadlau fod hyn wedi arwain at dwf mewn gwerthiant feinyl hefyd fel cyfrwng mwy gwerthfawr ar gyfer y casglwr recordiau brwd.

Yr eironi yn stori ‘Gwenwyn’ ydy ei bod hi’n debygol fod llwyddiant sengl ddigidol wedi arwain at gyhoeddi albwm ar CD, a hynny heb risg i Côsh i bob pwrpas.

Er hynny, mae rheolwr y label yn weddol sicr mai ffrydio ydy bara menyn y dyfodol i Côsh ac i gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol.

“Ma na shifft enfawr oddi wrth CDs ond maen nhw’n dal werth eu gwneud ar hyn o bryd. Dwi’n ama os fydd y cyfrwng yn bodoli mewn ‘chydig flynyddoedd – mae cyfrifiaduron Apple eisoes yn dod heb CD / DVD drive.”

“Ma feinyl dal yn opsiwn i stwff sy’n deilwng. Y gwir ydi, ffrydio sydd fwyaf poblogaidd rŵan ac yn dal i dyfu, felly mae angen bod mor flaengar ag sy’n bosib.”

Rydan ni yn Y Selar yn dal i weld gwerth mawr i ryddhau cerddoriaeth ar ffurf copi caled – mae’n rhoi rhyw statws i record, ac fe welwch o gategorïau Gwobrau’r Selar ein bod ni’n teimlo fod gwaith celf recordiau’n bwysig i’r diwydiant.

Ond tybed ydan ni’n dechrau gweld model busnes newydd ar gyfer labeli Cymraeg? Rhyddhau’n ddigidol gyntaf er mwyn mesur y galw yn y farchnad, cyn buddsoddi mwy mewn rhyddhau ar ffurf feinyl neu CD pan fo’r ymchwil farchnad ymarferol yma’n dangos cyfiawnhad dros hynny.

Esiampl arall diweddar iawn ydy albwm cyntaf Mellt, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, a ryddhawyd yn ddigidol ym mis Ebrill ac sydd ers hynny wedi cael clod o sawl cyfeiriad, cyrraedd rhestr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, a chipio teitl Record Gymraeg y Flwyddyn yn y Steddfod. Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd label JigCal fod fersiwn CD nifer cyfyngedig o’r albwm i’w ryddhau yr wythnos hon. Enghraifft arall o fand yn profi fod galw am eu halbwm ar ffurf corfforol, a chael eu gwobrwyo yn y pendraw.

Alffa ochr yn ochr â Muse

Yr hyn mae llwyddiant ‘Gwenwyn’ wedi profi hefyd ydy fod modd cyrraedd cynulleidfa eang, ryngwladol wrth hyrwyddo’r gerddoriaeth yn dda, a llwyddo i gael lle ar y rhestrau chwarae pwysig.

Mae’r ystadegau Spotify yn dangos bod y trac wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg gwrandawyr yn America, Brasil, Yr Almaen, Canada a nifer o wledydd eraill sy’n bell iawn o Lanrug! Mae’r gwasanaeth ffrydio wedi dyrchafu Alffa i lefel sydd ochr yn ochr â rhai o fawrion cerddoriaeth ryngwladol.

“Fyddai sengl ‘Gwenwyn’ heb fod ar silff yn Llundain drws nesa i sengl gan Muse yn Woolies Llundain degawd yn ôl” meddai Yws Gwynedd.

“…ond ma’n rhannu rhestr chwarae efo nhw’n hollol naturiol. Ma’n gyfle da i’r iaith yn hynny o beth.

“Dwi ddim yn meddwl mai ‘Gwenwyn’ fydd y dwytha i gyflawni’r gamp yma – dwi di bod yn dilyn y rhifau yn ddiweddar a ma rhai artistiaid wedi bod yn camu mlaen yn gyflym. Mae’r rhestr Clwb Can Mil dwi di greu yn agoriad llygad a dwi di bod yn adio eitha dipyn iddi’n ddiweddar.”

Yr hyn sydd heb wneud unrhyw ddrwg i Alffa, na Recordiau Côsh, chwaith ydy’r holl sylw mae cyrraedd y garreg filltir nodedig wedi’i ddenu iddyn nhw. Mae’r stori wrth gwrs wedi cyrraedd y prif gyfryngau Cymraeg – BBC Wales, Golwg360, Heno – ond hefyd wedi ei chodi gan y wasg Brydeinig gan gynnwys sylw yn The Independent, The Guardian, ac ar Front Row Radio, ymysg cyhoeddiadau cerddorol amlwg.

Mae’n werth nodi fod fideo ‘Gwenwyn’ isod wedi bod yn boblogaidd iawn ers i’r newyddion dorri ddydd Sul, ac wedi’i wylio dros 7000 o weithiau ers hynny.

Mae llwyddiant yn magu mwy o lwyddiant, ac mae’n anochel bydd yr holl sylw’n denu mwy o ddiddordeb yn Alffa, Côsh a cherddoriaeth Gymraeg gyfoes yn gyffredinol. Fyddai’n ddim syndod gweld ‘Gwenwyn’ yn cyrraedd y ffigwr o ddwy filiwn ffrydiau mewn dim o dro.

Un peth sy’n sicr ydy bod ffrydio cerddoriaeth Gymraeg wedi cymryd cam mawr ymlaen dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae Alffa, Adwaith, PYST, Côsh a sawl chwaraewr arall i’w diolch am hynny.

 

Gan – Owain Schiavone