Mae’r gantores boblogaidd o Sir Benfro, Lowri Evans wedi rhyddhau ei EP diweddaraf ‘Yr Un Hen Gi’ ar label Shimi Record.
Fe ryddhaodd Lowri y trac teitl ar gyfer yr EP ‘Yr Un Hen Gi’ fel sengl ar 4 Mehefin ac fe’i dewiswyd yn ‘Drac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru yr wythnos honno hefyd.
Mae EP newydd yn cynnwys 5 trac ac mae’r gerddoriaeth yn wahanol i steil arferol Lowri gyda’r casgliad yn cynnwys traciau yn y steil roc, jazz, electroneg a phop. Yn ôl Lowri roedd “recordio yr EP gyda Lee Mason (gitarydd, peiriannydd a cynhyrchydd stiwdio) yn siawns i arbrofi ar gwahanol arddulliau, gan defnyddio drum lŵps a synthesizers.”
Mae’r gân ‘Yr Un Hen Gi’ yn un eithaf gwleidyddol yn ôl y gantores.
“Mae’n trafod rhai o’r problemau mawr sydd yn digwydd yn y byd, a sut mae’r llywodraeth yn addo bydd pethau yn newid, ond yn y diwedd, does dim yn newid” meddai Lowri Evans
“Mae ‘Dwi ‘di Blino’ yn ymdrin â sut mae’n rhaid esgus bod popeth yn iawn, teimlo fel nad oes neb yn gwrando, pobl yn gorfod delio gyda magazines a social media yn dweud wrthynt sut i edrych a sut i fyw ei bywydau.”
Mae un trac traddodiadol ar y casgliad newydd sef ‘Ble’r wyt ti’n Myned’, ond pwysleisia Lowri nad yw hon mewn steil werinol o gwbl.
Roedd gig lansio yr EP yn Nhŷ Tawe ar 29 Mehefin, ac roedd Lowri hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog dros y penwythnos.
Gigs Lowri Evans ar y gweill
21.07.18 Neuadd Pennar, Doc Penfro – 19:30
22.07.18 Abaty Llandudoch – 14:00
08.08.18 Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd – 18.15