Wythnos diwethaf ymddangosodd fersiwn wedi’i ail-gymysgu o gân Mabli Tudur, ‘Fi yw Fi, ar-lein.
Rhyddhawyd y sengl wreiddiol gan Mabli dros flwyddyn yn ôl, ond yn ystod ei pherfformiad o’r gân yn Eisteddfod Bae Caerdydd, cafodd y ei chlywed gan yr artist cerddoriaeth electroneg FRMAND.
Roedd y ddau eisoes yn adnabod ei gilydd ers cwrdd yng Ngŵyl Crug Mawr nôl yn 2015. Yn ystod gig nos Fercher Maes B eleni daeth y ddau i gysylltiad eto, a chytunwyd y byddai FRMAND yn rhoi cynnig ar ail-gymysgu’r gân.
O fewn pythefnos, roedd y trac yn barod i’w lansio ar label newydd Recordiau BICA.
Parhau i gyd-weithio
Daw Mabli yn wreiddiol o Gaerdydd, a FRMAND o Geredigion, ac mae’r ddau wedi bod yn creu a pherfformio cerddoriaeth gwahanol iawn i’w gilydd ers cryn amser – Mabli yn canolbwyntio ar arddull acwstig, a FRMAND mewn arddull Bassline / House.
Mae Mabli ar hyn o bryd wrthi’n paratoi ar gyfer lansiad ei halbwm cyntaf, tra bod FRMAND yn gweithio ar brosiect newydd yn ail-gymysgu mwy o ganeuon Cymraeg.
Bwriad y ddau yw parhau i gyd-weithio ar draciau gyda’i gilydd yn y dyfodol.
Ar ôl haf prysur o gigio, mae Mabli yn parhau gyda’i haddysg prifysgol a chanolbwyntio ar waith cyfansoddi yn y stiwdio tra bydd FRMAND yn perfformio nesaf ar y 22 Medi yn yr ‘Attic’, Abertawe wrth gefnogi’r DJ amlwg Chris Lorenzo.
Bydd y sengl allan yn swyddogol ar 19 Medi, ond mae modd gwrando arni ar lwyfannau digidol yn y cyfamser.