Mae cyn-aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Mark Roberts, wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf cyn diwedd mis Hydref.
Mae Roberts yn un o gerddorion, a chyfansoddwyr Cymreig mwyaf dylanwadol y pedwar degawd diwethaf.
Ffurfiodd Y Cyrff yn nechrau’r 1980au, ac aeth y band ymlaen i fod yn un o’r bandiau Cymraeg mwyaf cyn iddynt chwalu ym 1992. Aeth Mark, ynghyd a basydd Y Cyrff, Paul Jones, ymlaen i ffurfio Catatonia yn fuan wedyn ac roedd yn gyfrifol am gyfansoddi nifer o hits mwyaf y grŵp gan gynnwys ‘Mulder and Scully’ a ‘Road Rage’.
Bu Mark hefyd yn cydweithio â Paul Jones, ynghyd â John Griffiths a Kevs Ford, gyda’r grŵp Sherbert Antlers, gan hefyd gyd-weithio â Jones i ryddhau albwm Y Ffyrc yn 2006. Mae hefyd wedi bod yn aelod o The Earth gyda Dionne Bennett, a Dafydd Ieuan (Super Furry Animals).
Cyhoeddodd Mark ar gyfrif Twitter newydd y bydd yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf dan yr enw ‘Mr’ ar 26 Hydref.
Enw’r albwm fydd Oesoedd, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Strangetown Records sef label Daf Ieuan sydd wedi bod yn cydweithio â Mark ar The Earth.
Mae un o draciau’r albwm newydd wedi’i lwytho i safle Soundcloud Strangetown bellach, dyma ‘Y Pwysau’:
Prif Lun: Mark Roberts yn chwarae gydag Y Cyrff. Llun gan Medwyn Jones (Flickr- GanMed64) CCA 2.0