Mei Gwynedd yn chwarae dis

Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf heddiw, dydd Gwener 30 Tachwedd.

Enw’r sengl newydd ydy ‘Tafla’r Dis’, ac mae allan ar label Mei ei hun, sef Recordiau Jigcal.

Mae Mei Gwynedd yn enw cyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Mae’n gyn-aelod o Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, a hefyd yn gynhyrchydd uchel ei barch sy’n gweithio gyda nifer o fandiau ifanc ardal Caerdydd ar hyn o bryd.

Mae’r sengl newydd yn dynodi diwedd blwyddyn brysur i Mei a ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Glas, nôl ym mis Mehefin eleni.

Roedd Glas yn llawn o gerddoriaeth acwstig, hunangofiannol, ond mae Mei yn dychwelyd i’w wreiddiau roc a rôl gyda’r sengl newydd.

Y newyddion da pellach ydy y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth newydd ar ôl ‘Taflu’r Dis’ gan mai dyma’r trac cyntaf i’w datgelu o EP newydd mae Mei yn bwriadu rhyddhau yn fuan yn y flwyddyn newydd.