Mr i wneud cyfres o gigs yn y flwyddyn newydd

Yn dilyn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, bydd cyn aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Mark Roberts, yn perfformio cyfres fer o gigs yn y flwyddyn newydd.

‘Mr’ ydy enw prosiect unigol newydd Roberts, ac fe ryddhaodd ei albwm Oesoedd ym mis Tachwedd eleni, gyda holl gopïau’r argraffiad cyntaf yn gwerthu o fewn cwta wythnos i’r dyddiad cyhoeddi.

Clwb Ifor Bach sy’n gyfrifol am drefnu’r tri gig sy’n digwydd yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd. Dyma fydd y cyfle cyntaf i glywed Mark yn perfformio caneuon Oesoedd yn fyw, ac yn ôl pob tebyg bydd cyfle hefyd i glywed ambell hen glasur o’i ôl gatalog.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i droedio llwyfannau Cymru unwaith eto” meddai Roberts.

“Mae’r ymateb i fy albwm wedi bod yn anhygoel a dwi’n awyddus iawn i chwarae’r caneuon yn fyw. Mi fydda’i hefyd yn canu hits a misses o fy ngyrfa dros y tri deg mlynedd diwethaf”.

Mae Oesodd bellach nôl mewn stoc ac ar gael trwy dudalen Twitter Mark – @MrCyrff

Bydd y gig cyntaf yn cael ei gynnal yn y Galeri, Caernarfon ar nos Sadwrn 16 Chwefror, gyda gigs yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth i ddilyn ym mis Mawrth.

Meddai Clwb Ifor Bach ei bod yn “fraint i fod yn rhoi’r daith yma ymlaen, a ni’n edrych ymlaen at weld Mark yn ôl ar lwyfan gyda’i fand. Ni hefyd yn edrych ymlaen at weithio yn agos gyda Galeri, Caernarfon, a Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.”

Cofiwch bod cyfweliad gyda Mark am  ei brosiect newydd yn rhifyn diweddaraf Y Selar sydd ar gael o’r mannau arferol, ac yn ddigidol, nawr.

Gigs Mr:

Sadwrn 16 Chwefror – Galeri, Caernarfon

Gwener 8 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Gwener 29 Mawrth – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth