Mynd a Dod…eto

Bydd cyfle arall i weld y sioe gerdd ‘Mynd a Dod’ sy’n cynnwys trac sain wedi’i gyfansoddi gan y grŵp ifanc Wigwam cyn diwedd mis Hydref.

Perfformiwyd y sioe yn wreiddiol gan ddisgyblion Ysgol Plasmawr, Caerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm ar 6 a 9 Awst fel rhan o weithgarwch yr Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas.

Roedd Cyngor y Celfyddydau wedi noddi disgyblion Ysgol Plasmawr i ysgrifennu sioe arbennig i’w pherfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn wreiddiol, ac roedd eu cyd-ddisgyblion wedi gofyn i aelodau Wigwam greu’r trac sain ar gyfer y sioe.

Manteisiodd y band yn llawn ar y cyfle gan recordio albwm llawn o’r enw Coelcerth i gyd-fynd â’r prosiect, sy’n cynnwys 9 trac gwreiddiol ac a ryddhawyd cyn y Steddfod. Rhyddhawyd yr albwm gan Recordiau JigCal. Mae’r sioe yn rhannu enw ag un o draciau amlycaf yr albwm.

Nawr, bydd cyfle arall i weld y sioe lwyfan ‘Mynd a Dod’ ar 22 a 23 Hydref wrth iddi gael ei pherfformio eto yn yr ysgol ei hun. Bydd y sioe yn dechrau am 7:30 ar y ddwy noson, ac mae’r tocynnau ar werth trwy law’r ysgol nawr am £10.

Dyma un o ganeuon yr albwm, ‘Swni’m Balchach’, gan Wigwam o faes Eisteddfod yr Urdd eleni, ynghyd â sgwrs fach gydag Elis o’r band:

Grêt i weld Wigwam yn Steddfod yr Urdd ddydd Gwener – rili wedi dod mlaen yn dda fel band ers iddyn nhw chwarae yn Steddfod llynedd. Gallwch eu dal nhw’n Gig Nos Ffiliffest nos Sadwrn nesaf – mynd i fod yn un dda!

Posted by Y Selar on Sunday, 3 June 2018